Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyfrif Refeniw Tai
  		Published: 14/01/2016
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn 
ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17.
Mae鈥檙 gyllideb ddrafft yn cynnig cynnydd mewn rhent o 1.4% (yn ogystal 芒 hyd at 
neu 拢2 yn llai) gyda rhent targed i denantiaethau newydd, a chyflwyno taliadau 
gwasanaeth ar gyfer glanhau mannau cymunedol, gwasanaethau digidol a chynnal a 
chadw erial ar gyfer tenantiaethau cyfredol. 
Maer gyllideb ddrafft hefyd yn darparu buddsoddiad parhaol yn y stoc dai er 
mwyn cwrdd 芒 safonau Safon Ansawdd Tai Cymru a chychwyn rhaglen adeiladu tai 
newydd.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
鈥淩wyf wrth fy modd bod y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17 y byddwn 
yn ei hargymell i鈥檙 Cyngor Sir i鈥檞 chymeradwyo fis Chwefror yn gweld y 
buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed mewn blwyddyn yn Sir Fflint ar wella cartrefi 
tenantiaid ar gost o 拢21 miliwn, yn ogystal 芒 buddsoddiad cychwynnol o dros 拢4 
miliwn er mwyn cychwyn rhaglen adeiladu tai cyngor. 
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai, 
鈥淩haid i鈥檙 Cyfrif Refeniw Tai fod 芒 chynllun ariannol byr dymor a hir dymor 
mewn lle.  Mae鈥檙 cynllunio tymor byr yn dangos sut bydd safon Safon Ansawdd Tai 
Cymru yn cael ei gyrraedd, addewidion dogfen Dewisiadau yn cael eu cadw, a 200 
o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu.  
鈥淢ae鈥檙 cynllun tymor hir yn dangos cyfrif hyfyw gydag incwm dros ben dros 
anghenion gwariant.  Mae hyn rhoi mwy o gyfleoedd i鈥檙 Cyngor wella darpariaeth 
gwasanaeth; yn darparu sicrwydd y gellir cynnal Ansawdd Safonau Tai Cymru 
unwaith y byddant wedi eu cyrraedd, a gallai ddarparu cyllid cyfalaf pellach ar 
gyfer tai cyngor newydd.鈥