天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maniffesto CLlLC

Published: 14/01/2016

Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ei Maniffesto ar gyfer llywodraeth leol yn ddiweddar, sef 鈥楲leoliaeth 2016-21鈥. Cynllun sy鈥檔 cynnwys 40 o bwyntiau yw hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac fe鈥檌 cyhoeddwyd cyn etholiadau鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol a gaiff eu cynnal fis Mai 2016. Mae Maniffesto CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio鈥檌 gweledigaeth ar gyfer swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, ei chynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol, a sut y mae am sicrhau cyllid teg a hyblyg a鈥檌 hymrwymiad i 鈥楽ybsidiaredd鈥, sy鈥檔 rhagdybio y caiff pwer ei drosglwyddo i鈥檙 lefel honno o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, Cawsom gryn gefnogaeth i鈥檔 sylwadau pendant a chytbwys a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ddeall y problemau sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cyngor a鈥檌 helpu i ymdopi 芒 nhw. Mae hyn yn adlewyrchu momentwm cynyddol o blith unigolion, grwpiau a sefydliadau i weithio gyda ni i ddiogelu gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol. 鈥淵n ei setliad dros dro a gyflwynodd i lywodraeth leol, mae鈥檔 amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr achos cryf a gyflwynodd CLlLC dros arafu鈥檙 toriadau a chafodd hynny ei groesawu鈥檔 eang. 鈥淢ae gan Lywodraeth Cymru r么l strategol genedlaethol glir, ond mae Sir y Fflint a chynghorau eraill yn awyddus i weld pwysau cynyddol i ddatganoli pwerau i lywodraeth leol a chymunedau lleol.鈥 Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried gwahoddiad gan CLlLC i gefnogi ei faniffesto鈥檔 ffurfiol ac i ymuno 芒 CLlLC a chynghorau eraill i weithio gyda鈥檙 Llywodraeth newydd a gaiff ei hethol yng Nghymru fis Mai i鈥檞 hannog i fabwysiadu cynigion y Maniffesto yn ei pholis茂au a鈥檌 chynlluniau ariannu.