Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau lleol yn awyddus i redeg llyfrgelloedd lleol 
  		Published: 14/01/2016
Bydd cynghorwyr yn ystyried ymateb tri chymuned i gynigion ar gyfer dyfodol 
tair llyfrgell wledig pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Ionawr.
Mae gan grwpiau lleol yn yr H么b a Mynydd Isa ddiddordeb mewn rhedeg y 
llyfrgelloedd  rhan amser yn eu pentrefi, a hynny fel rhan o gynllun y Cyngor i 
weithio mewn partneriaeth 芒 chymunedau i drosglwyddo rhai o鈥檌 asedau cymunedol. 
Gall cynghorau ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i鈥檙 gymuned neu grwpiau 
elusennol er mwyn iddyn nhw gynnal yr adeiladau a鈥檙 gweithgareddau sydd dan 
fygythiad. Gallai unrhyw drefniant ar gyfer y ddwy lyfrgell fod ar waith erbyn 
1 Ebrill, os bydd y Cabinet yn derbyn y cynnig.
Yn Saltney, ystyrir cais gan gynghorwyr sir lleol  i ymestyn y cyfnod a bennwyd 
i ymchwilio i atebion posibl i鈥檙 broblem yn lleol.
Fis Mawrth diwethaf, cytunodd y Cabinet ar Gynllun Llyfrgell Tymor Canolig, a 
oedd yn amlinellu seilwaith cynaliadwy i鈥檙 llyfrgelloedd yn y dyfodol. Roedd yn 
cynnwys sefydlu canolfannau llyfrgell yn yr Wyddgrug, Treffynnon, Cei Connah, 
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Bwcle a鈥檙 Fflint. Mae鈥檙 posibilrwydd o 
drosglwyddo asedau cymunedau yn cael ei ystyried ar gyfer llyfrgelloedd 
gwledig. Bydd y gwaith o symud llyfrgelloedd Queensferry, Mancot a Phenarl芒g i 
lyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi鈥檌 gwblhau erbyn 1 
Mawrth.
Drwy ddefnyddio鈥檙 cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer llyfrgelloedd 
yr H么b, Mynydd Isa a Saltney, gellid helpu鈥檙 Cyngor i sicrhau arbedion 
arfaethedig o 拢0.544m yn 2016/17 drwy鈥檙 cynllun hwnnw.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Rwy鈥檔 falch bod grwpiau lleol wedi dangos diddordeb brwd mewn datblygu ffyrdd 
eraill o sicrhau y bydd gweithgareddau鈥檙 llyfrgell yn parhau.  Bydd y Cyngor yn 
gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau y bydd y newidiadau鈥檔 mynd rhagddynt 
yn ddidrafferth os caiff y cynigion eu derbyn. Oherwydd y pwysau ariannol 
presennol, nid oes gennym fawr o ddewis ond ystyried ffyrdd newydd o ddiogelu 
asedau lleol pwysig ac rydym yn croesawu cefnogaeth cymunedau lleol yn y 
cyswllt hwn.鈥