Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Moderneiddio Ysgolion
  		Published: 14/01/2016
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr ymatebion niferus a gafwyd i鈥檙 
ymgynghoriad statudol diweddar ar y cynigion i gau Ysgol Maes Edwin, Mynydd y 
Fflint ac Ysgol Llanfynydd pan fydd yn cyfarfod ar 19 Ionawr.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried yr holl adborth i鈥檙 ymgynghoriad gan ddisgyblion, 
rhieni, gofalwyr, athrawon, llywodraethwyr a鈥檙 Pwyllgor Arolygu a Chraffu 
Addysg ac Ieuenctid.  Os bydd y Cabinet yn penderfynu cau鈥檙 ysgol, bydd raid 
i鈥檙 cynnig gael ei gyhoeddi ar ffurf Hysbysiad Statudol pan fydd cyfnod o 28 
diwrnod yn cael ei roi i bobl wrthwynebu.  Yna caiff adroddiad pellach ei roi 
i鈥檙 Cabinet a fydd yn dod i benderfyniad terfynol yn y gwanwyn.
Yn unol 芒鈥檙 Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol, dechreuodd cyfnod ymgynghori 
ffurfiol ar 21 Hydref a daeth i ben ar 2 Rhagfyr.  Cynhyrchodd y Cyngor Sir 
ddogfen ymgynghori yn unol 芒 Chanllaw Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wefan y 
Cyngor ac a anfonwyd i fudd-ddeiliaid.  Cynhyrchwyd fersiwn ategol o鈥檙 ddogfen 
ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd wedi鈥檌 hysgrifennu a鈥檌 chyflwyno mewn 
ffordd arbennig i鈥檞 galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses ymgynghori.  
Yr opsiynau dan ystyriaeth oedd: cadw鈥檙 sefyllfa bresennol, ffedereiddio neu 
gau鈥檙 ysgol,
Roedd modd i ymgyngoreion roi sylwadau drwy holiadur ar-lein neu drwy lenwi 
ffurflen ar gefn y ddogfen ymgynghori a hefyd drwy e-bost neu lythyr ac yn y 
cyfarfodydd ymgynghori.  Cynhaliodd swyddogion y Cyngor gyfarfodydd 芒 
llywodraethwyr, athrawon a staff cymorth a rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i roi 
cyfle i bobl holi cwestiynau a rhoi sylwadau pellach, er nad yw hynny鈥檔 orfodol 
yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檙 adroddiad i鈥檙 Cabinet yn cynnwys crynodeb o鈥檙 materion a godwyd gan yr 
ymgyngoreion, ymateb i bob un o鈥檙 materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel 
y mae鈥檔 cael ei ddarparu yn ei ymateb ymgynghori) o rinweddau cyffredinol y 
cynigion.
Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor Sir yn 
ymgymryd 芒 rhaglen moderneiddio ysgolion heriol.  Mae am ddarparu鈥檙 cyfleoedd 
gorau posibl i ddysgwyr i gyflawni eu llawn botensial mewn ysgolion sy鈥檔 addas 
i鈥檙 diben a darparu addysg o鈥檙 radd flaenaf yn y 21ain Ganrif.  Rhaid i鈥檙 
Cyngor sicrhau fod ei rwydwaith o ysgolion yn diwallu anghenion addysgol nawr 
ac yn y dyfodol a bod y ddarpariaeth addysg o safon uchel, yn gynaliadwy, yn 
digwydd mewn gwell adeiladau ac yn diwallu鈥檙 angen i ddarparu鈥檙 nifer gywir o 
leoedd mewn ysgolion yn y lleoliadau cywir.鈥
Meddai Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn 
cydnabod fod gwneud dim yn mynd i arwain at gymarebau disgyblion athrawon uwch 
ym mhob ysgol wrth i gyllid refeniw ostwng.  Mewn cyfnod o gyni fel hyn lle 
ceir toriadau digyffelyb yng nghyllid y llywodraeth ganolog, nid yw鈥檙 cyllid 
gennym bellach i sybsideiddio ysgolion sydd 芒 nifer fach o ddisgyblion.鈥