Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau i leoedd parcio yn Nhalacre
Published: 14/01/2016
Amlinellir mesurau arfaethedig i wella lleoedd parcio ar gyfer ymwelwyr i
Dalacre ai draeth mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ar 19 Ionawr.
Maer traeth yn Nhalacre yn denu ymwelwyr o ardal eang ac fei defnyddir yn
helaeth gan bobl leol. Mae hefyd yn lleoliad poblogaidd ac eiconig ar gyfer
ffotograffiaeth a ffilmio.
Mae鈥檙 Cyngor, sy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 perchnogion tir ENI Liverpool Bay Operating
Company Limited a Chyfoeth Naturiol Cymru, ar 么l sicrhau arian allanol hefyd,
wedi datblygu cynllun i fynd ir afael 芒r problemau parcio ac ehangu nifer y
lleoedd yn yr ardal.
Yn gynharach eleni, dechreuwyd gweithredu maes parcio ychwanegol 150 lle yn y
pentref, sydd ar gael am gyfnod o ddeng mlynedd.
Cynigir hefyd y bydd mwy o leoedd ar gael pan fydd maes parcio鈥檙 Goleudy yn
cael ei brydlesu oddi wrth ei berchnogion a鈥檌 reoli gan y Cyngor (60 o leoedd),
ac mae trafodaethau gyda Chanolfan Gymunedol Talacre i ddefnyddior tir yng
nghefn yr adeilad ar gyfer parcio (70 o leoedd) yn parhau. Mae Cyfoeth Naturiol
Cymru ac ENI wedi cytuno y gall y Cyngor reolir ardal arwyneb caled wrth
fynedfa maes parcio鈥檙 traeth i gynyddu ei argaeledd (35 lle) gyda rhywfaint o
waith cynnal a chadw ar raddfa fach i gael ei wneud ar faes parcio鈥檙 traeth i
gynyddu ei argaeledd i鈥檞 ddefnyddio gan ymwelwyr, er y gallai orfod cau
oherwydd llifogydd a bydd ei faint yn lleihau dros amser wrth
i鈥檙 cynefin naturiol adfywio ei hun (100 o leoedd)
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: 鈥淢ae
Talacre yn gwneud cyfraniad pwysig at economi dwristiaeth Sir y Fflint ond mae
lleoedd parcio cyfyngedig wedi bod yn fater o bwys i bobl leol ac ymwelwyr fel
ei gilydd.
鈥淢aer rhan fwyaf o ymwelwyr yn defnyddio maes parcio鈥檙 traeth trwy gydol y
flwyddyn ond mae鈥檔 agored i lifogydd a phan fydd hyn yn cyd-fynd 芒鈥檙 cyfnod
prysuraf o ran ymwelwyr, mae鈥檙 galw am barcio yn llawer uwch nag y gellir ei
gyflenwi. Mae ymwelwyr yn parcio ym mhob lle sydd ar gael yn y pentref, gan
achosi cryn anhwylustod i bobl leol gyda thraffig yn tagu鈥檙 ffyrdd cul. Mae
ymwelwyr yn wynebu ciwiau hir i fynd i mewn ir pentref, ac nid oes digon o
leoedd pan fyddant yn cyrraedd yno, ac yna rhaid iddynt aros dros awr i adael
eto.
鈥淏ydd ein cynigion yn gwella pethau yn sylweddol gydar potensial o gynyddu
mannau parcio i 415 cyn haf 2016 os gellir gwneud cytundebau gydar sefydliadau
lleol. Os gellir cyflawni hyn, bydd Gorchymyn Rheoli Traffig hefyd yn cael ei
roi ar waith i reoli parcio ar y stryd, gan leihau tagfeydd ar ddiwrnodau
prysur, ac yn lleddfu problemau i drigolion.鈥