天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio Ysgolion

Published: 24/12/2015

Ar 6 Ionawr bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu鈥檙 Cyngor Sir yn ystyried yr ymatebion niferus a gafwyd i鈥檙 ymgynghoriad statudol diweddar ynglyn 芒鈥檙 cynigion i gau Ysgol Maes Edwin, ac Ysgol Llanfynydd. Yn unol 芒鈥檙 Cod Trefniadaeth Ysgolion, dechreuodd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 21 Hydref a daeth i ben ar 2 Rhagfyr. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl adborth gan ddisgyblion, rhieni, gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr cyn i鈥檙 adroddiad gael ei gyflwyno yn ddiweddarach ym mis Ionawr i Gabinet y Cyngor. Os bydd y Cabinet yn penderfynu mynd ymlaen 芒鈥檙 cynigion, bydd raid iddynt gael eu cyhoeddi drwy gyfrwng Hysbysiad Statudol. Cynhyrchodd y Cyngor Sir ddogfen ymgynghori yn unol 芒 Chanllaw Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor ac a anfonwyd at fudd-ddeiliaid. Cynhyrchwyd fersiwn ategol o鈥檙 ddogfen ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd wedi鈥檌 hysgrifennu a鈥檌 chyflwyno mewn dull arbennig i鈥檞 galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses ymgynghori. Yr opsiynau a ystyriwyd oedd: cadw pethau fel ag y maent, ffedereiddio neu gau. Gallai鈥檙 ymgyngoreion roi sylwadau drwy holiadur ar-lein neu drwy lenwi ffurflen ar gefn y ddogfen ymgynghori a hefyd drwy e-bost neu lythyr yn y cyfarfodydd ymgynghori. Er nad oedd yn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru, cynhaliodd swyddogion y Cyngor gyfarfodydd 芒 llywodraethwyr, athrawon a staff cymorth a rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i roi cyfle i bobl holi cwestiynau a rhoi sylwadau pellach. Mae鈥檙 adroddiad i鈥檙 Pwyllgor Craffu yn cynnwys crynodeb o鈥檙 materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymateb i bob un o鈥檙 materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel y mae鈥檔 cael ei ddarparu yn yr ymateb ymgynghori) o rinweddau cyffredinol y cynnig. Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor Sir yn ymgymryd 芒 rhaglen foderneiddio addysg heriol. Mae am ddarparu鈥檙 cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr er mwyn cyflawni eu llawn botensial mewn ysgolion sy鈥檔 addas i鈥檙 diben a darparu addysg o鈥檙 radd flaenaf yn y 21ain ganrif. Rhaid i鈥檙 Cyngor ofalu fod ei rwydwaith ysgolion yn diwallu anghenion addysgol nawr ac yn y dyfodol a bod darpariaeth addysgol o safon uchel, cynaliadwy yn cael ei darparu mewn gwell adeiladau a diwallu鈥檙 angen i ddarparu鈥檙 nifer gywir o leoedd ysgol yn y lleoliadau cywir. Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod y bydd gwneud dim byd yn arwain at gymarebau disgyblion athrawon uwch ym mhob ysgol wrth i gyllid refeniw ostwng.鈥