Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Achubwch y twyni!
  		Published: 23/12/2015
Ailgylchwch eich hen goeden Nadolig gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint 
eleni, a chyfrannu at y gwaith o adfer cynefin twyni tywod pwysig.
Maer Ceidwaid yn gofyn am goed Nadolig go iawn dros bedair troedfedd o daldra, 
yn un  darn a heb addurniadau, i gael eu rhoi ar 么l cyfnod y Nadolig.
Gall trigolion fynd 芒u coed i Barc Gwepra yng Nghei Connah, lle bydd ardal yn 
cael ei dynodi yn y prif faes parcio, neur maes parcio ger canolfan 
weithgareddau Pentre Peryglon, Heol yr Orsaf, Talacre, rhwng dydd Mawrth 5 a 
dydd Mercher 13 Ionawr 2016.
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre: 
鈥淢ae si芒p a gwead coed Nadolig yn eu gwneud y deunydd delfrydol i ddal tywod a 
chwythir gan y gwynt, sydd wedyn yn dechrau yn dechrau ffurfio twyni newydd. 
Byddwn yn cynnal llawer o waith adfer y flwyddyn nesaf, ac felly yn gofyn i 
gymaint  o goed ag y bo modd gael eu rhoi.
 Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: 
鈥淢ae hon yn fenter wych, gan ddefnyddio coed Nadolig sydd dros ben i warchod 
ein hamgylchedd naturiol a gwella amddiffynfeydd llifogydd. Rwyn siwr y bydd y 
cymunedau lleol yn mynd ati i gefnogir cynllun unwaith eto fel y maent wedi 
wneud mor dda yn y gorffennol.鈥
鈥淒ros y 17 mlynedd diwethaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ai 
bartneriaid wedi sefydlogi鈥檙 twyni trwy ddal gwynt yn y tywod a gosod ffensys i 
leihau difrod ir cyn dwyni sensitif. Roedd cynlluniau maeth traeth gan 
beirianwyr Cyngor Sir a oedd wedi dod 芒 thywod wedi鈥檌 garthu i鈥檙 traeth i 
adeiladu鈥檙 cyn dwyni amddiffynfeydd llifogydd credadwy.鈥 
Bydd ceidwaid, gwirfoddolwyr a grwpiau o fyfyrwyr yn gosod yr holl goed a 
gasglwyd yn y Flwyddyn Newydd.