Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaethau’n cau dros y Nadolig
  		Published: 21/12/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cau Neuadd y Sir ac adeiladau eraill rhwng y 
Nadolig ar Flwyddyn Newydd er mwyn arbed arian drwy leihau’r gost o redeg 
eiddor Cyngor dros gyfnod tawel y Nadolig. 
 Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis gwaith trwsio brys gan 
y Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Stryd; bydd y 
rhain yn parhau.  
Neuadd y Sir, yr Wyddgrug - yn cau am 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr 2015 ac yn 
ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr.
Swyddfa Gofrestru, Plas Llwynegrin ,Yr Wyddgrug – bydd gwasanaethau cyfyngedig, 
a bydd ar agor yn ôl anghenion y gwasanaeth
 Gwnaed y penderfyniad i gaur adeiladau gan fod y Cyngor yn wynebu toriadau 
ir gyllideb na welwyd eu tebyg or blaen. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth 
Gorfforaethol: 
Fel nifer o sefydliadau, mae gweithlu’r Cyngor yn lleihau dros gyfnod y 
Nadolig fel arfer gan fod nifer o weithwyr yn cymryd gwyliau i dreulio amser 
gydau teuluoedd. 
Waeth faint o staff sydd yn ein swyddfeydd yn ystod y cyfnod hwn, yr un yw’r 
gost o’u gwresogi a’u goleuo. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni nid yw hyn yn 
ffordd effeithlon o ddefnyddio adnoddau ac felly gwnaed penderfyniad i gau 
Neuadd y Sir ar adeiladau ar y safle’n gyfan gwbl dros gyfnod y Nadolig. 
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett:
 Gallaf sicrhau’r cyhoedd y bydd y gwasanaethau allweddol yn parhau yn ystod y 
cyfnod hwn. Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol nar gwasanaethau 
brys.