Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Bywyd newydd i hen Bencadlys y Llyfrgell 
  		Published: 10/12/2015
Mae Banc Bwyd Sir y Fflint yn defnyddio hen Bencadlys y Llyfrgell ar y Campws 
Dinesig yn yr Wyddgrug fel canolfan i ddosbarthu nwyddau i鈥檞 chwe chanolfan yn 
y Sir.
Mae鈥檙 elusen yn cael ei rentu鈥檔 rhad am 12 mis gan helpu鈥檙 Cyngor gyda鈥檌 
strategaeth ad-drefnu gyffredinol drwy wneud defnydd o adeilad gwag y byddai鈥檙 
Cyngor, fel arall, yn gorfod parhau i鈥檞 redeg a鈥檌 reoli.
Symudodd llyfrgell gyfeirio鈥檙 sir o鈥檙 adeilad yn ddiweddar i鈥檙 llyfrgell yng 
nghanol y dref ac mae鈥檙 gwasanaethau ategol  a oedd wedi鈥檜 lleoli yn yr adeilad 
hefyd wedi symud i safleoedd eraill.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd  Aaron Shotton: Mae hyn yn gyfle 
gwych i helpu Banc Bwyd Sir y Fflint gyda鈥檜 gwaith ardderchog ledled y sir gan 
hefyd sicrhau arbedion gwerthfawr i鈥檙 Cyngor ar adeg pan mae arian  yn brin. 
Mae鈥檔 rhan o鈥檔 strategaeth i ad-drefnu鈥檙 modd y caiff adeiladau鈥檙 Cyngor eu 
defnyddio i weld a allwn weithredu mewn ffordd ratach a mwy effeithlon.
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, Bernie Attridge: Rydym wedi bod yn gefnogol 
iawn i Fanc Bwyd Sir y Fflint erioed, ac rydym eisoes yn cynnig mannau penodol 
yn Neuadd y Sir i bobl adael rhoddion. Bydd y fenter ddiweddaraf hon, 
gobeithio, yn rhoi cymorth ychwanegol i ganiat谩u iddynt barhau 芒鈥檜 gwaith 
gwerthfawr yn y gymuned鈥.
Dywedodd y Gweinidog Andy Leake, Cadeirydd Banc Bwyd Sir y Fflint:鈥 Rydym mor 
ddiolchgar i Gyngor Sir y Fflint am eu haelioni rhyfeddol a chaniat谩u i Fanc 
Bwyd Sir y Fflint ddefnyddio adnawdd gwych fel hen adeilad Pencadlys y 
Llyfrgell. Mae鈥檙 Banc Bwyd yn gwasanaethu chwe chanolfan ledled Sir y Fflint ac 
mae wedi bwydo 18, 750 ers iddo agor yn 2012. Bob mis, bydd dros 500 yn cael 
help gan y Banc Bwyd, ac mae ein gwaith wedi ehangu. Cysylltwyd 芒鈥檙 Cyngor i 
ddweud bod angen adeilad newydd arnom, ac rydym wrth ein boddau ein bod yn awr 
yn agor yr adeilad hwn i helpu鈥檙 gymuned ac i leihau costau鈥檙 Cyngor lleol. 
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn defnyddio鈥檙 adeilad i greu canolfan ranbarthol 
i Fanc Bwyd Sir y Fflint.鈥