Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Datganiad Dulyn
  		Published: 02/12/2015
Mae Tystysgrifau syn cadarnhau ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i gytundeb 
cenedlaethol Datganiad Dulyn i greu cymuned cyfeillgar i oed i鈥檞 gweld yn 
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Wrth i nifer y bobl syn byw yn hirach gynyddu, mae angen i gynghorau ystyried 
ffyrdd o sicrhau bod cymunedau yn cynnig ansawdd bywyd ar gyfer y boblogaeth hy
n. 
Mae llofnodi Datganiad Dulyn gan y Cyngor ym mis Chwefror 2014 yn ychwanegu 
dimensiwn pwysig at y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws y Sir. 
Maer datganiad yn ddatganiad cyhoeddus o fwriad i weithio gyda sefydliadau 
eraill, rhannu profiadau, a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd cyfartal i bobl hyn.
Mae arddangos y tystysgrifau yn nodi lansiad y cynllun Heneiddion Dda yn Sir y 
Fflint syn nodir gwaith a fydd yn cael ei wneud ar draws Sir y Fflint i 
gefnogi pobl hyn i gynnal eu lles au hannibyniaeth - i wneud Sir y Fflint yn 
lle da i dyfun hen. Maer cynllun wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i raglen 
鈥楬eneiddio鈥檔 Dda yng Nghymru鈥 gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru, sydd yn nodi pum 
maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar 
fywydau pobl hyn yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn gallu aros yn iach ac yn 
weithgar a pharhau i gyfrannu at fywyd teuluol a chymunedol. 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
鈥淢ae byw mewn cymuned syn sensitif i anghenion unigol yn rhywbeth yr ydym i 
gyd am ei brofi. Mae llofnodir cytundeb yn rhoir Cyngor ar lwyfan rhyngwladol 
a bydd yn darparu cadarnhad pellach o waith ymroddedig, parhaus. Bydd yn 
galluogir Cyngor i gymryd rhan mewn rhwydwaith cydgysylltiedig ledled Cymru a 
fydd yn gweithio i addasu canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd i gydfynd orau 芒 
chymunedau yng Nghymru.鈥 
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Heneiddion Dda yng Nghymru, ewch i:
http://www.ageingwellinwales.com/en/home
or chwith ir dde y Cynghorydd Christine Jones, Cynghorydd Ray Hughes, 
Cadeirydd y Cyngor Sir a Neil Ayling, Prif Swyddog dros Wasanaethau 
Cymdeithasol.