Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn agor yn yr Wyddgrug
  		Published: 25/11/2015
Yn dilyn llwyddiant Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, y 
Fflint, Cei Connah a Bwcle, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y 
bumed Ganolfan wedi agor yn yr Wyddgrug.
Mae Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu  yn rhan allweddol o鈥檙 broses o 
wella鈥檙 Cyngor Sir gan roi pwyslais ar wasanaethau cwsmeriaid o鈥檙 radd flaenaf 
mewn lleoliadau hwylus yng nghanol trefi鈥檙 sir. Caiff pob canolfan ei 
datblygu鈥檔 么l anghenion y dref y mae鈥檔 ei gwasanaethu. Mae鈥檙 Ganolfan yn yr 
Wyddgrug yn rhan o Lyfrgell yr Wyddgrug yng Nghanolfan Daniel Owen.
Yno, bydd gwybodaeth ar gael i gwsmeriaid ynghyd 芒 gwasanaethau allweddol gan y 
Cyngor Sir gan gynnwys gwasanaethau tai, gwasanaethau stryd, a chyngor am 
fudd-daliadau lles, bathodynnau glas, teithio consesiynol a鈥檙 dreth gyngor.
Bydd y Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a bydd 
ymgynghorwyr wrth law i helpu ag ymholiadau ynglyn 芒鈥檙 uchod ac unrhyw 
ymholiadau eraill yn ymwneud 芒鈥檙 Cyngor. Bydd modd defnyddio TGCh a bydd rhan 
benodol o鈥檙 Ganolfan wedi鈥檌 neilltuo ar gyfer cwsmeriaid sydd am gael 
trafodaeth breifat ag ymgynghorydd.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
鈥淩wy鈥檔 hynod falch ein bod yn parhau i wneud cynnydd rhagorol o ran ein 
hymrwymiad i gyflwyno Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn nhrefi鈥檙 sir. Y 
Ganolfan yn Nhreffynnon oedd y gyntaf o鈥檌 math yn y Gogledd ac, o ganlyniad, 
mae鈥檙 modd rydym yn darparu gwasanaethau wedi gwella鈥檔 arw; mae鈥檔 braf gweld 
ein bod yn awr wedi ehangu鈥檙 gwaith rhagorol hwnnw ar hyd a lled y sir.鈥