Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Codi tâl mewn meysydd parcio
  		Published: 23/11/2015
Cafodd strategaeth parcio ceir ar gyfer y sir gyfan ei chymeradwyo gan Gabinet 
y Cyngor ym mis Ebrill sy鈥檔 cynnwys cyflwyno taliadau parcio ym mhob un o 
feysydd parcio hyfyw trefi鈥檙 Cyngor Sir.  Byddai鈥檙 strategaeth newydd yn 
darparu dull cyson o weithredu parcio oddi ar strydoedd ym meysydd parcio鈥檙 
trefi.
Mae mesurau a gorfodaeth parcio yn offer allweddol ar gyfer rheoli rhwydwaith 
priffyrdd effeithiol a helpu i osgoi tagfeydd ac mae rheoli parcio oddi ar 
strydoedd mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal bywiogrwydd a 
bwrlwm y trefi.
Bydd y taliadau parcio鈥檔 cael eu cyflwyno鈥檔 raddol ledled y sir.  Cyflwynwyd 
taliadau ym Mwcle, ynghyd 芒 thariffau codi t芒l newydd yn yr Wyddgrug, ym mis 
Awst a dechreuwyd codi t芒l yn Nhreffynnon ym mis Medi.  O 30 Tachwedd 2015 
ymlaen, bydd peiriannau talu ac arddangos yn weithredol yng Nghei Connah, 
Queensferry a Shotton.  Yna, i ddilyn yn y flwyddyn newydd, bydd strategaeth 
parcio鈥檙 Wyddgrug yn cael ei hymestyn i gynnwys codi t芒l ym meysydd parcio 
Neuadd y Sir, a bydd taliadau鈥檔 cael eu cyflwyno yn y Fflint.
Mae rhestr lawn o鈥檙 trefi a鈥檙 meysydd parcio sy鈥檔 cael eu heffeithio, ynghyd 
芒鈥檙 tariffau a鈥檙 oriau y codir t芒l amdanynt, ar gael i鈥檞 gweld ar wefan y 
Cyngor.
Nid oes unrhyw gynlluniau i godi t芒l ar ddefnyddwyr ceir anabl ym meysydd 
parcio鈥檙 Cyngor mewn lleoedd parcio dynodedig ar gyfer yr anabl. 
Meddai Steve Jones Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd:
Mae鈥檙 Strategaeth Parcio Ceir yn cael ei chyflwyno fel rhan o鈥檙 her i geisio 
arbed oddeutu 拢18m dros y flwyddyn ariannol nesaf.  Rydym wedi addasu鈥檙 
cynigion gwreiddiol er mwyn cymryd i ystyriaeth y prif bryderon a godwyd yn 
ystod yr ymgynghoriadau, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn yn ystod y 
broses.