Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Digwyddiad cymorth Dementia
  		Published: 18/11/2015
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, fydd y siaradwr gwadd mewn 
digwyddiad a fydd yn arddangos gwaith arloesol sy鈥檔 cael ei wneud yng 
nghartrefi gofal a chymunedau lleol Sir y Fflint i gynorthwyo pobl sy鈥檔 byw 芒 
dementia.
Y Digwyddiad Arddangos Rhannu Arfer Gorau hwn a gynhelir yng Nghanolfan 
Ddinesig Cei Connah ddydd Gwener 27 Tachwedd fydd y cyntaf o鈥檌 fath i gael ei 
gynnal yn Sir y Fflint.
Bydd y digwyddiad yn dathlu a rhannu rhywfaint o鈥檙 gwaith diweddar a wnaethpwyd 
mewn cartrefi gofal ac yn tynnu sylw at y ffordd y gall cymorth drawsffurfio 
lles a safon byw unigolion 芒 dementia yn ogystal 芒鈥檙 rheiny sy鈥檔 gofalu 
amdanynt.
 
Yn y digwyddiad, bydd gwahanol ddarparwyr gwasanaeth yn arddangos y gwaith y 
maent wedi鈥檌 wneud mewn cartrefi gofal gyda ffotograffau, clipiau fideo, 
stor茂au a gwaith celf.  Bydd cyflwyniadau鈥檔 cael eu rhoi gan gartrefi gofal a 
darparwyr hefyd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
Wasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩wy鈥檔 hynod falch o鈥檙 gwaith y mae Sir y Fflint yn 
ei wneud i gynorthwyo pobl 芒 dementia a鈥檜 gofalwyr.  Dyma gyfle i ni rannu鈥檙 
gwaith da hwn ac rwyf wrth fy modd fod Comisiynydd Pobl Hyn Cymru鈥檔 gallu ymuno 
芒 ni yn y digwyddiad pwysig hwn.
Nodyn i Olygyddion
Cynhelir y digwyddiad hwn rhwng 10am a 1pm yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah 
ddydd Gwener 27 Tachwedd.  Bydd cyfle i dynnu ffotograffau ar ddechrau鈥檙 
digwyddiad.