Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cloddio i orffennol y Fflint	
  		Published: 09/11/2015
 Mae鈥檙 Fflint ar hyn o bryd yn ganolbwynt cloddiad archeolegol mawr ar safler 
hen dref ganoloesol sydd wedi dadorchuddio cyfrinachau oi gorffennol disglair 
syn dyddion 么l ir 12fed Ganrif.
Maer cloddio archeolegol wedi bod yn digwydd ers mis Ionawr ar safle hen 
fflatiau deulawr y Cyngor yng nghanol tref y Fflint.  
Maer safle cyn fflatiau deulawr wedi cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer 
ailddatblygu uchelgeisiol cynllun 73 uned Gofal Ychwanegol newydd fydd yn cael 
ei adeiladu gan Pennaf. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn 
adeiladu Canolfan Feddygol newydd ar weddill y safle. Maer ddau gynllun wedi鈥檜 
trefnu i ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2016.
 
Maer ardaloedd a fwriedir ar gyfer datblygu ar draws yr ardal adfywio cyfan yn 
cynnwys yr ailddatblygiad modern mwyaf o dref ganoloesol ai chylched 
amddiffynnol a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. 
Dywedodd Mark Walters, Archaeolegydd Rheoli Datblygu, Ymddiriedolaeth 
Archaeolegol Clwyd-Powys, 
鈥淢ae ardaloedd cloddio鈥檙 datblygiad o bwysigrwydd archeolegol rhanbarthol a 
chenedlaethol ac mae鈥檙 archaeoleg yr ydym wedi dod o hyd iddo yma wedi rhoi 
cyfle unigryw na ellir ei ailadrodd i ddeall yn llawn y tarddiad a datblygiad y 
dref ar bobl syn ymgartrefu yma.    
鈥淓r syndod i bawb roedd y ffos ar ffryntiad Coleshill yn datgelu archaeoleg 
sy鈥檔 gyfan yn ymwneud ag amddiffynfeydd y dref o fewn dim ond 20cm o wyneb 
ffordd fynediad y llyfrgell! Roedd hyn yn gwbl annisgwyl gan ein bod wedi 
meddwl y byddai ehangur dref yn y 19eg ganrif ar 20fed ganrif wedi 
dinistrion llwyr y clawdd rhagfur yn arbennig.  
 
鈥淩oedd y ffos sengl ir gogledd or fflatiau deulawr yn dangos aflonyddwch 
dymchwel dwfn or 1960au ar linell yr amddiffynfeydd canoloesol, ond hefyd 
gwarchod waliau blaen cerrig cynharach y 18fed ganrif ar Earl Street a 
dyddodion canoloesol ac 么l-ganoloesol cyflawn posibl mewn mwy o ddyfnder. Nid 
yw lefel cadwraeth yr amddiffynfeydd canoloesol, sy鈥檔 troi i lawr Earl Street o 
Stryd Coleshill, heb ei feintioli o gwbl ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o 
ffryntiad Earl Street gan nad oedd unrhyw gyfleoedd i samplu鈥檙 amddiffynfeydd 
oherwydd presenoldeb y fflatiau deulawr ar y ffryntiad.
Mae鈥檙 holl ganfyddiadau archeolegol a wnaed ar y safle yn cael eu cofnodi鈥檔 
llawn a bydd adroddiad manwl, ynghyd 芒 lluniau ar gael ir cyhoedd eu gweld yn 
Llyfrgell y Fflint ac ar wefan Cyngor Sir y Fflint ar ddiwedd mis Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect, sydd, ynghyd 芒 nifer o aelodau etholedig 
lleol wedi cael taith dywys o amgylch y safle,
鈥淢ae gan gymuned Sir y Fflint yn amlwg ddiddordeb mawr yn yr archaeoleg yn 么l y 
nifer o bobl syn edrych i mewn bob dydd ac yn darllen y paneli gwybodaeth ac 
mae hwn yn gyfle prin i ymgysylltu 芒 chymuned Sir y Fflint i gynnig gwell 
dealltwriaeth iddynt on gorffennol.    
 
Mae ymchwiliadau cychwynnol bellach yn cael eu cynnal ar The Duke Walks, Y 
Fflint sef cyn safle fflatiau deulawr cydffiniol y Cyngor a chyn-Orsaf Heddlu a 
Llys Ynadon sydd hefyd yn cael eu clustnodi ar gyfer ailddatblygu tai yn gynnar 
yn 2016.
 Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Cadeirydd Grwp Llywio Adfywior Fflint,
鈥淢aer canfyddiadau or cloddiad archeolegol yn cadarnhau arwyddoc芒d 
diwylliannol a hanesyddol tref y Fflint ar raddfa leol a chenedlaethol. Maen 
bwysig bod cenedlaethaur dyfodol yn cael cyfle i ddysgu am ei gorffennol 
unigryw. Maen bwysig ein bod yn awr yn symud ymlaen gydag ailddatblygu canol 
tref y Fflint cyn gynted 芒 phosibl er budd pobl leol a busnesau fel ei gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai:
鈥淩wyf wrth fy modd bod y datblygiad cyffrous a gwaith adfywio yng Nghanol Tref 
y Fflint hefyd wedi rhoi cyfle gwych i archeolegwyr gloddio鈥檔 ddyfnach i hanes 
cyfoethog y Fflint. Hoffwn ddiolch i Pennaf a BIPBC am eu cydweithrediad ar 
cymorth maent wedi鈥檌 gynnig ir t卯m