Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cau dros y Nadolig 
  		Published: 02/11/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cau Neuadd y Sir ac adeiladau eraill rhwng y 
Nadolig a鈥檙 Flwyddyn Newydd er mwyn arbed arian ar gostau rhedeg eiddo鈥檙 Cyngor 
dros gyfnod tawel y Nadolig. 
Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis atgyweiriadau tai brys, 
gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau Strydwedd a bydd y rhain yn parhau i 
gael eu darparu. 
Bydd cau鈥檙 adeiladau yn effeithio ar y lleoliadau canlynol: 
Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr 2015 ac yn ail-agor  
ddydd Llun 4 Ionawr.
Neuadd Llwynegrin (Swyddfa鈥檙 Cofrestrydd) yr Wyddgrug 鈥 yn gweithredu lefel is 
o wasanaeth,  yn agor fel bo鈥檙 angen ar gyfer y gwasanaeth 
Pencadlys Llyfrgelloedd, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24 
Rhagfyr ac yn ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr. 
Gwnaed y penderfyniad i gau鈥檙 adeiladau gan fod y Cyngor yn wynebu toriadau i鈥檙 
gyllideb na welwyd eu tebyg o鈥檙 blaen. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: 
鈥淔el nifer o sefydliadau, mae鈥檙 Cyngor wedi gweithredu gyda gweithlu llai dros 
gyfnod y Nadolig yn y gorffennol gan fod nifer o weithwyr yn cymryd gwyliau i 
dreulio amser gyda鈥檜 teuluoedd. 
鈥淲aeth faint o weithwyr sy鈥檔 ein hadeiladau swyddfa yn ystod y cyfnod hwn, 
maer costau ar gyfer gwresogi a goleuo yn aros yr un fath.  Yn yr hinsawdd 
ariannol sydd ohoni mae hyn yn ddefnydd aneffeithlon o adnoddau ac felly gwnaed 
penderfyniad i gau Neuadd y Sir a鈥檙 adeiladau campws yn gyfan gwbl dros gyfnod 
y Nadolig鈥. 
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett: 鈥淕ellir cadarnhau i鈥檙 cyhoedd y bydd 
gwasanaethau allweddol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.  Ni fydd yn 
effeithio ar wasanaethau hanfodol na鈥檙 gwasanaethau brys.