Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Archwiliwch eich Archifau
  		Published: 29/10/2015
Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal sgwrs ynglyn â ‘sgandal’ Edwardaidd. 
Cyflwynir y sgwrs a elwir yn ‘Ellen Penketh – Thief or Innocent Cook’  gan 
staff o’r 
Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwiliwch Eich 
Archifau. 
Roedd Ellen Penketh yn gogydd yn Erddig, Wrecsam, a gafodd ei hamau’n 
ddiweddarach o fod yn lleidr.  
Bydd y sgwrs yn datgelu datblygiadau’r digwyddiadau a sut y symudodd o fywyd yn 
y gegin i fywyd tu ôl i farrau cell a sut y daeth yn un o’r sgandalau mwyaf yn 
yr ardal leol. 
Bydd y sgwrs yn seiliedig ar gofnodion gwreiddiol o gasgliad archifau Erddig a 
gedwir yn  
Yr Archifdy, Hen Adeilad y Rheithordy, Penarlâg.  Bydd y Gwarchodwr Mark Allen 
hefyd yn trafod  cadwraeth Llyfr Teulu Erddig a ariennir gan grant. 
Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad a gynhelir ddydd Sadwrn 14 Tachwedd rhwng 
3-5pm yn hanfodol.  
Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad a dysgu am y 
stori anhygoel hon  
anfon e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffonio 01244 532364.
Nodyn i olygyddion
Mae Ymgyrch Archwiliwch eich Archifau wedi’i ddylunio ar gyfer archifau o bob 
math ledled y DU  
ac Iwerddon. Cydlynir yr ymgyrch gan yr Archifau Gwladol ac mae Cymdeithas 
Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon) yn awr yn ei drydedd flwyddyn.  Eleni 
cynhelir prif wythnos lansio ymgyrch Archwiliwch eich Archifau o ddydd Sadwrn 
14 Tachwedd tan ddydd Sul 22 Tachwedd 2015.