Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Drama The 鈥楧鈥 Word 
  		Published: 29/10/2015
Daeth mwy na hanner cant o drigolion y Fflint i wylio drama sy鈥檔 tynnu sylw at 
faterion syn wynebu pobl 芒 dementia.
Trefnodd t卯m Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint fod y ddrama 鈥楾he D 
Word鈥 yn cael ei pherfformio yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant, y Fflint, fel 
rhan ou hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 salwch.
Mae鈥檙 ddrama, a ysgrifennwyd gan yr actores a鈥檙 sgriptwraig deledu Janys 
Chambers, yn darlunio materion syn wynebu pobl 芒 dementia yn ogystal 芒u 
gofalwyr au teuluoedd ac yn crisialur ymdeimlad o arwahanrwydd a wynebir yn 
aml.
Cynhaliwyd trafodaeth ddiddorol a llawn gwybodaeth yn dilyn y llwyfaniad rhwng 
y gynulleidfa ar actorion, dan arweiniad Janys ac aelod o d卯m Gwasanaethau 
Cymdeithasol Sir y Fflint.
Roedd y drafodaeth yn gadarnhaol iawn ac yn dangos cymaint o gefnogaeth sydd 
gan drigolion tuag at bobl syn byw 芒 dementia yn y gymuned.
Y digwyddiad hwn ywr diweddaraf mewn cyfres o fentrau sydd 芒鈥檙 bwriad o 
helpu鈥檙 Fflint i ddod yn dref sy鈥檔 deall dementia. Mae Gwasanaethau 
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 agos gyda busnesau, sefydliadau 
ac elusennau lleol i ddatblygu a hyrwyddo cymuned sy鈥檔 deall dementia.
Mae caffi cof wedii sefydlu yn eglwys y plwyf i gynnig cyngor a chymorth i 
bobl 芒 dementia au gofalwyr, ac mae prosiect yn mynd rhagddo i ddarparu 
hyfforddiant Cyfeillion Dementia i aelodau or gymuned fel eu bod yn gallu 
deall yn well a rhoi cymorth i bobl sy鈥檔 dioddef o鈥檙 salwch.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau 
Cymdeithasol:
 鈥淐ydnabyddir bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd o ran gofal dementia gyda 
gwasanaethau megis caffis cof a mentrau hyfforddi cyfeillion dementia. Bydd y 
gwaith partneriaeth ardderchog sy鈥檔 digwydd yn y Fflint ac mewn ardaloedd 
eraill yn y Sir yn sicrhau bod pobl syn dioddef o鈥檙 salwch hwn au gofalwyr 
au teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl.鈥
Gofynnir bod unrhyw un syn dymuno helpu eu hardal i ddod yn gymuned sy鈥檔 deall 
dementia yn cysylltu 芒 Th卯m Cynllunio a Datblygu Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702655 neu yn mynd i www.alzheimers.org.uk i gael 
rhagor o wybodaeth ynglyn 芒鈥檙 Gymdeithas Alzheimer, Cyfeillion Dementia a 
Chymunedau sy鈥檔 Deall Dementia.  
Nodyn i olygyddion
Comisiynwyd 鈥楾he D Word鈥 gan Celfyddydau Mewn Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol 
Betsi Cadwaladr a Chelfyddydau Cyngor Sir Ddinbych, gyda Chronfeydd Elusennol 
gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Awyr Las.
The 鈥楧鈥 Word Eglwys y Fflint.JPG