Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dyma Ein Cyfle Ni 鈥 Wynebu鈥檙 Her Ariannol yn Sir y Fflint
  		Published: 28/10/2015
Digwyddiadau Ymgysylltu 芒鈥檙 Cyhoedd   16 Tachwedd 鈥 7 Rhagfyr
Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol dan fygythiad oherwydd y 
gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar 
y cyhoedd i sefyll o blaid eu gwasanaethau lleol drwy weithio gyda鈥檙 Cyngor i 
wynebu鈥檙 her ariannol.
Bydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd gan ddechrau ym 
mis Tachwedd fel bo pobl yn cael clywed sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o 
siapio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau fod eu barn yn cyfrif yn y 
ddadl gyllidebol.
Mae angen i鈥檙 Cyngor ostwng ei gyllideb yn sylweddol a gwneud newidiadau hollol 
newydd i鈥檙 ffordd y darperir gwasanaethau yng ngoleuni鈥檙 gostyngiadau ariannol 
sylweddol y mae鈥檙 llywodraeth wedi鈥檜 gwneud flwyddyn ar 么l blwyddyn.
Daw hyn ar adeg pan fo鈥檙 Cyngor yn wynebu cynnydd di-osgoi mewn costau a galw 
am wasanaethau.  Mae Sir y Fflint yn Gyngor effeithlon ac arloesol ac mae 
ganddo hanes o ymdopi gyda鈥檙 cyllid sydd ar gael, gan arbed dros 拢22m yn y tair 
blynedd diwethaf.  Wrth wneud hynny, mae wedi diogelu gwasanaethau allweddol ar 
yr un pryd megis cynnal a chadw ffyrdd, cadw cymunedau鈥檔 l芒n ac yn daclus, 
canolfannau hamdden, ysgolion lleol, cymorth lles a gwasanaethau i bobl hyn, 
plant sy鈥檔 agored i niwed a鈥檙 rheiny ag anableddau.
Ond rhwng nawr a 2018 mae鈥檙 rhagolwg yn llwm wrth i鈥檙 Cyngor wynebu bwlch 
pellach o 拢53m yn y gyllideb.  Eleni yn unig mae 拢18.3m wedi cael ei arbed tuag 
at y targed hwn, ac rydym bellach wedi cyrraedd 鈥榯robwynt鈥 difrifol.  Mae鈥檙 
Cyngor wedi cyhoeddi Strategaeth Ariannol Tymor Canolig manwl sy鈥檔 nodi sut y 
mae鈥檔 cynnig ymateb i鈥檙 heriau sy鈥檔 ei wynebu.  Bydd angen cymorth Llywodraeth 
Cymru a鈥檙 cyhoedd arno i gyflawni hynny.
Meddai Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton: 鈥淣i yw un o鈥檙 Cynghorau sy鈥檔 derbyn y 
lleiaf o gyllid yng Nghymru ac rydym yn dal i godi tua鈥檙 cyfanswm cyfartalog 
yng Nghymru ar y Dreth Gyngor, ond mae鈥檙 lefel isel hon o gyllid, gydag 
effeithiau鈥檙 agenda cyni parhaus yn y DU, yn ein gwneud yn agored i ostyngiadau 
cyllidebol uchel iawn.
Mae Sir y Fflint wedi amsugno toriadau cyllidebol mewn modd creadigol dros y 
blynyddoedd diwethaf drwy gynllunio鈥檔 ofalus, bod yn effeithlon, dod o hyd i 
atebion arloesol, a gostwng costau swyddfa gefn i ddiogelu gwasanaethau rheng 
flaen.  Mae鈥檙 Cyngor bellach wedi cyrraedd 鈥榯robwynt鈥 lle bydd y gwasanaethau鈥檔 
agored i doriadau mawr heb rywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio鈥檔 galed i ddod o hyd i atebion a chredwn y gallwn arbed tuag 
拢14m o鈥檙 拢21m sy鈥檔 ofynnol y flwyddyn nesaf.  Os gallwn weithio gyda 
Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion pellach, er enghraifft cyfyngu 
cyfanswm y grant a gollwn, a derbyn cyfran o鈥檙 cyllid newydd ar gyfer iechyd i 
ariannu gwasnaethau gofal cymdeithasol ataliol yn uniongyrchol, credwn y gallwn 
gymryd cam mawr ymlaen i bontio鈥檙 bwlch ariannol hwn.  Heb yr atebion hyn, bydd 
y gwasanaethau yr ydym wedi medru eu diogelu hyd yma mewn perygl.鈥
Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett: Dyma gyfle鈥檙 cyhoedd i gymryd 
rhan.  Rydym eisoes yn cynorthwyo a gweithio gyda phobl leol i ddod o hyd i 
atebion lleol a darparu gwasanaethau ac rydym wedi cael ein calonogi gan yr 
ymateb hyd yma.  Ond mae llawer mwy ar 么l i鈥檞 wneud ac mae鈥檔 gyfle mawr i 
gymunedau lleol chwarae eu rhan a chymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau a 
gwasanaethau lleol na all y Cyngor Sir eu darparu o hyn ymlaen.  Rydym am 
weithio gyda phobl i archwilio鈥檙 cyfleoedd hyn fel partneriaid gyda鈥檔 gilydd.鈥
Gall bobl gofrestru i fynychu un o saith digwyddiad i ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd a 
gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir gan ddechrau ar 16 Tachwedd.
Bydd angen i bobl gofrestru i fynychu nawr gan y bydd nifer y lleoedd yn cael 
eu cyfyngu i 200 ym mhob lleoliad.  Gallant wneud hyn drwy fynd ar-lein ar 
www.siryfflint.gov.uk/EinCyfleNi neu drwy ffonio llinell gofrestru arbennig ar 
01352 701701 o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Bydd y digwyddiadau鈥檔 cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm yn y lleoliadau 
canlynol:
Nos Lun, 16 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle
Nos Fawrth, 17 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, Y Fflint
Nos Fercher, 18 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Treffynnon
Nos Lun, 23 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch,Yr Wyddgrug
Nos Fawrth, 24 Tachwedd: Ysgol Gynradd Brychdyn
Nos Iau,3 Rhagfyr: Neuadd Ddinesig, Cei Connah
Nos Lun, 7 Rhagfyr: Ysgol Gynradd Sandycroft