Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwahoddiadau ar gyfer Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan
  		Published: 21/10/2015
Mae myfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn ymuno 芒 thaith gyfnewid i Siapan yn cael eu 
gwahodd i fynychu digwyddiad gwybodaeth yng Nghyngor Sir y Fflint.
Mae鈥檙 Cyngor yn cydgysylltu Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan ac mae鈥檔 chwilio am 
ymgeiswyr nawr ar gyfer rhaglen 2016.
Mae chwech lle ar gael bob blwyddyn a gofynnir i deuluoedd y myfyrwyr westeio 
ymwelydd o Siapan am bythefnos ar ddechrau鈥檙 gwyliau haf cyn i fyfyrwyr Sir y 
Fflint ddychwelyd i Siapan.
Mae鈥檙 daith ar agor i bobl ifanc sydd rhwng 16 ac 18 oed ar 1 Medi 2015, mewn 
addysg lawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg lawn amser ac yn byw yn Sir y 
Fflint.
Gwahoddir myfyrwyr a鈥檜 teuluoedd sydd 芒 diddordeb yn y daith gyfnewid i 
ddigwyddiad yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir am 6.30pm nos Lun 2 Tachwedd i 
ganfod mwy.
Yn ystod y noson hon bydd cyflwyniad gan fyfyrwyr a aeth ar y daith gyfnewid 
eleni a fydd s么n am eu profiadau a鈥檙 hyn y gwnaethant ei elwa.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
鈥淢ae鈥檙 daith gyfnewid hon yn gyfle arbennig i bobl ifanc o Sir y Fflint i weld 
diwylliant gwahanol, byw gyda theuluoedd lleol a gwneud ffrindiau oes ac mae鈥檔 
darparu profiad cyfoethog tebyg i fyfyrwyr o Siapan i ymweld 芒鈥檔 gwlad ni.鈥 
Am fwy o wybodaeth neu ffurflenni cais, cysylltwch 芒 Beth Ditson, Cydgysylltydd 
Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan ar 07786 523 601 neu Paula Jones ar 01352 
704400 neu e-bostiwch beth.ditson@flintshire.gov.uk