Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwaith yn Dechrau ar Lwybr Troed Newydd
  		Published: 09/10/2015
Mae gwaith wedi dechrau ar lwybr newydd i wella diogelwch ger ysgol.
Clustnodwyd y gwaith gan Gyngor Sir y Fflint ar Bryn Road, Bryn Y Baal, fel 
prif flaenoriaeth, gan sicrhau cyllid o 拢247,000
gan Lywodraeth Cymru ar 么l ymgyrch i wella diogelwch ger Ysgol Uwchradd Argoed.
Cyflwynodd Emma Pryce, disgybl, ddeiseb ir Cyngor yn ymgyrchu am lwybr troed 
ar y ffordd brysur, er mwyn 
gwneud yr ardal yn fwy diogel i ddisgyblion gerdded ir ysgol.
Maer gwaith, syn cynnwys llwybr troed a chroesfan sebra newydd, yn cael ei 
ariannu drwyr Grant Llwybrau mwy Diogel mewn
 Cymunedau, a bydd wedi鈥檌 gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.
Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
鈥淩wyn falch iawn bod y Cyngor yn gallu sicrhau arian ar gyfer y gwelliannau 
hyn. Caiff y llwybr hwn ei ddefnyddio gan ddisgyblion yr ysgol
 a thrigolion yn ddyddiol, a bydd y llwybr troed a chroesfan sebra newydd yn 
helpu i wella diogelwch i bawb.鈥