Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arolygiad Gwasanaethau Plant yn Sir y Fflint 
  		Published: 09/10/2015
Mae Gwasanaethau Plant yn Sir y Fflint yn cael eu darparu gan weithlu cymwys a 
phrofiadol syn gallu diwallu anghenion plant, pobl ifanc au teuluoedd, yn 么l 
adroddiad arolygu i鈥檞 ystyried gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint mewn cyfarfod 
ddydd Mawrth, 13 Hydref. 
Ymgymerodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 
arolygiad yn gynharach eleni pan edrychwyd yn fanwl ar brofiadau plant a phobl 
ifanc a oedd wedi angen neu dal i angen cefnogaeth a/ neu amddiffyniad. 
Roedd yr arolygiad hefyd yn ystyried ansawdd y canlyniadau a gyflawnwyd ar 
gyfer plant a theuluoedd, gan gynnwys sampl fach o blant a phobl ifanc a oedd 
yn derbyn gofal, wedi derbyn gofal. Darllenodd arolygwyr ffeiliau achos a 
chyfweld staff, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau partner. Buont 
hefyd yn siarad 芒 phlant, pobl ifanc au teuluoedd. 
Canmolodd yr adroddiad broses wneud penderfyniadau clir y Cyngor yn ystod 
ymchwiliadau amddiffyn plant a鈥檙 camau brys a gymerodd i amddiffyn plant a 
phobl ifanc a oedd mewn perygl dybryd o niwed sylweddol. 
Caiff 12 o argymhellion yr adroddiad eu cydnabod fel ardaloedd yr oedd y Cyngor 
ei hun eisoes wedi鈥檜 nodi ar gyfer gwelliant pellach. Mae hyn yn cynnwys yr 
angen i gryfhau trefniadau ymhellach pan fydd pobl yn cysylltu 芒r gwasanaeth 
gyntaf a sicrhau bod yr holl systemau mewnol yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol 
i ddarparu gwasanaethau rhagorol. 
Maer adroddiad yn cefnogir arweinyddiaeth a llywodraethu cryf a ddarperir gan 
uwch wleidyddion a swyddogion ac yn croesawu ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu a 
gweld gwelliant pellach yn y gwasanaethau plant. Amlygodd hefyd mai鈥檙 adborth 
cyffredinol gan staff oedd bod Sir y Fflint ag enw da ac yn lle cadarnhaol i 
weithio. 
Canfur arolygwyr pan fo pobl wedi cysylltu ller oedd arwydd amlwg bod plentyn 
neu blant mewn perygl neu wedi dioddef niwed sylweddol, bod penderfyniadau 
prydlon wedi鈥檜 gwneud a bod camau cychwynnol wedi鈥檜 cymryd i amddiffyn y 
plentyn. 
Maer adroddiad yn nodi bod y cynadleddau achos amddiffyn plant a arsylwyd gan 
yr arolygwyr wedi cael eu cadeirion dda ac yn canolbwyntio ar y plentyn.
 Maer cyngor hefyd yn gweithion galed i geisio sicrhau, lle bo modd, bod 
plant yn derbyn gofal o fewn eu teulu estynedig neu eu cefnogi i gynnal 
perthnasau mwy ystyrlon. I gefnogi hyn roedd gwasanaeth cynadleddau grwpiau 
teuluol cadarnhaol wedi鈥檌 sefydlu. 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
Mae yna bethau da i鈥檞 dysgu or adroddiad hwn ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni 
argymhellion yr arolygwyr. 
Rydym yn falch fod yr adroddiad yn cydnabod ac yn cymeradwyo ein dull 
effeithiol o reoli diogelwch plant. Er gwaethaf y pwysau ariannol enfawr a 
wynebir gan y Cyngor, rydym yn gweithion galed i sicrhau ein bod yn parhau i 
ddarparu gwasanaethau da, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae galw cynyddol. 
Rydym yn derbyn bod meysydd sydd angen gwelliant parhaus a byddwn yn taclo鈥檙 
rhain yn ein cynllun gweithredu  
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, Neil 
Ayling: 
Maer adroddiad yn cadarnhau ein hymrwymiad i welliant parhaus y gwasanaethau 
plant yn Sir y Fflint. Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod nifer o 
gryfderau yn y Gwasanaethau Plant, yn enwedig ymrwymiad ac ymroddiad ein 
gweithwyr cymdeithasol.  Rydym eisoes yn ymateb i argymhellion yr adroddiad ar 
gyfer newid pellach.