天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghori ar Orchmynion Traffig

Published: 09/10/2015

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar y ffordd y maen ymgynghori 芒r gymuned cyn cyflwyno mesurau arafu traffig. Os cymeradwyir y cynigion, bydd yr awdurdod yn defnyddior cynghorau cymuned i ymgymryd 芒r broses ymgynghori ynghylch cyflwyno mesurau arafu traffig a mesurau diogelwch ar y ffyrdd. Bydd y cynghorau cymuned yn casglu barn y gymuned ehangach ac yn trafod 芒鈥檙 awdurdod beth yw鈥檙 opsiwn gorau y cytunwyd arno. Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gall y broses hon fod yn gymhleth a chymryd llawer o amser, ac mewn llawer o achosion, gall fod yn anodd bodloni dewisiadau trigolion unigol tra鈥檔 diwallu dyletswydd statudol y cyngor i leihau nifer y damweiniau ar ffyrdd Sir y Fflint. Dywedodd: 鈥淕an fwyaf, caiff mesurau arafu traffig eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a rhaid eu cwblhau o fewn y flwyddyn ariannol y cafodd yr arian ei ddyrannu. Os bydd sefyllfan codi lle mae cefnogaeth gyhoeddus syn gwrthdaro yn bodoli, gallair broses ymgynghori ffurfiol achosi oedi cyn gweithredu鈥檙 cynllun, neu mewn rhai achosion, gallai beryglu ei gyflwyno鈥檔 gyfan gwbl鈥. Er mwyn gwneud y broses ymgynghori 芒鈥檙 cyhoedd yn esmwyth a syml, a sicrhau bod terfynau amser cyllid yn cael eu diwallu, yn y dyfodol cynigir bod cyngor cymuned yr ardal yn casglu ac yn cynrychioli barn y trigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge: 鈥淏ydd y cynigion newydd yn sicrhau bod y cyngor cymuned sydd yn cynrychiolir gymuned leol yn cymryd rhan fwy gweithgar wrth benderfynu ar natur y cynllun arafu traffig a fydd yn cael eu gweithredu.鈥 Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn y Cabinet ar 13 Hydref.