Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 10-17 Hydref 
  		Published: 07/10/2015
Maen Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 10 - 17 Hydref.
Yn rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi 
dod ynghyd 芒i bartneriaid i dynnu sylw at y broblem o droseddau 
casineb ac i annog dioddefwyr i鈥檞 riportio.
Drwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid ar draws gogledd Cymru yn gweithio 芒 
grwpiau lleol a sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac i
 annog bod achosion o drosedd casineb yn cael eu riportio. Byddant hefyd yn 
hyrwyddo鈥檙 gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Trosedd o gasineb yw trosedd yn erbyn unigolyn neu grwp o bobl ar sail eu 
hunaniaeth neu eu gwahaniaeth canfyddiedig. Gall fod yn weithred o drosedd, 
gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu 
haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, 
crefydd ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw. 
Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod 
i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost
 neu alwadau ff么n.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod 
y Cyhoedd a Hamdden:
 
鈥淒erbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau 
casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod 
dioddef yn dawel. Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn 
partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ceisio 
codi proffil y mater pwysig hwn.鈥 
Dylid riportio achosion o Drosedd Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 
101 (999 mewn achos o argyfwng) neu linell gymorth 24 awr am ddim 
Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982 neu ar-lein 
www.reporthate.victimsupport.org.uk