Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cwmnïau lleol yn elwa o gartrefi newydd yn Sir y Fflint
  		Published: 05/10/2015
Mae Wates Living Space, y contractwr tai fforddiadwy a benodwyd ym mis Mehefin 
eleni i gyflwyno Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP), 
yn galw ar fusnesau lleol i hwyluso gwaith adeiladu 500 o gartrefi newydd ar 
draws y sir.
Bydd y contractwr yn adeiladu amrywiaeth o dai cyngor newydd, tai fforddiadwy 
ac unedau marchnad agored ac mae鈥檔 cynnal digwyddiad Cwrdd 芒r Prynwr ar gyfer 
Mentrau Bach a Chanolig lleol o 2pm tan 7.30pm Ddydd Mercher, 7 Hydref, yn y 
Village Urban Resort, Stryd Caer, Parc Dewi Sant, Ewlo.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i isgontractwyr o ystod o grefftau* gwrdd 芒鈥檙 
t卯m prosiect a chyflwyno tendr i ddod yn rhan o gadwyn gyflenwi Wates. 
Maer symudiad yn rhan o ymrwymiad ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Wates 
Living Space i sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu cartrefi newydd ar draws Sir 
y Fflint yn rhoi hwb ir economi, wrth greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant 
i bobl leol.
Yn amodol ar ganiat芒d cynllunio, bydd y prosiectau cyntaf yn cynnwys safleoedd 
a gliriwyd y fflatiau deulawr yn y Fflint, safle wedii glirio hen Ysgol Custom 
House yng Nghei Connah a safle gwledig yng Nghoed-llai. Disgwylir ir gwaith 
ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Fel rhan oi waith yn Sir y Fflint, bydd Wates Living Space hefyd yn cynnal 
amrywiaeth o seminarau ar gyfer busnesau bach a chanolig lleol a mentrau 
cymdeithasol fel rhan o Wythnos Fusnes Sir y Fflint, mewn ymdrech i gynyddu鈥檙 
fantais gymunedol a gr毛wyd drwy gydol y prosiect pum mlynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
鈥淢aen gyfnod gwirioneddol gyffrous wrth i ni ddechrau gweld y fantais sy鈥檔 
cael ei chreu gan ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd, buddsoddiad a fydd 
hefyd yn mynd ymhell tuag at sicrhau ein bod ar y blaen wrth fynd ir afael 芒r 
argyfwng tai.
鈥淢aer rhaglen hon yn ymwneud 芒 llawer mwy na chartrefi. Bydd yn creu swyddi ac 
yn rhoi hwb i fusnesau lleol ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fydd 
effeithiau ymledol y fantais yn cael eu teimlo ledled y sir dros y pum mlynedd 
nesaf a thu hwnt.鈥
Ychwanegodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes Rhanbarthol, Wates Living Space:
鈥淢ae cynlluniau adfywio uchelgeisiol megis Raglen Tai ac Adfywio Strategol 
Chyngor Sir y Fflint yn ffordd amhrisiadwy o sicrhau bod buddsoddiad yn creu 
twf a chyfle.
鈥淵n hanfodol, bydd y cartrefi newydd hyn yn gwella ansawdd bywyd i bobl Sir y 
Fflint. Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, bwriad Wates a Chyngor Sir y Fflint yw 
bod etifeddiaeth barhaus yn cael ei chreu ar gyfer pobl leol a thrwy ymgysylltu 
芒 chwmn茂au lleol, rydym yn bwriadu creu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant 
a chyflogaeth.鈥 
Nodyn i olygyddion
*Rhestr lawn o grefftau
路 Gwaith tir
路 Gwaith brics
路 Gosod concrid
路 Gwaith saer
路 Plastro
路 Toi
路 Plymio
路 Trydanol
路 Peintio ac addurno
路 Mastig 
路 Glanhau
路 Ffensio
路 Tirlunio
路 Ffenestri
路 Ceginau
路 Nwyddau dwr glaw
Am Wates Living Space
Mae Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yn un o brif ddarparwyr tai 
fforddiadwy a chynnal a chadw yn y DU.  Gan weithredu ar draws y DU, mae鈥檔 
canolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai 
yn eu cymunedau lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy 
waith cynnal a chadw ymatebol ac wedi鈥檌 gynllunio. 
Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 118 o flynyddoedd yn 么l, yn cyflogi dros 2,000 
o bobl ac fe gafodd drosiant o fwy na 拢1 biliwn yn 2014. Dyma鈥檙 cwmni preifat 
cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc y Gymuned gan Fusnes yn y Gymuned ac 
yn 2013 cafodd ei ddyfarnu gyda鈥檙 Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am 
Ddinasyddiaeth Gorfforaethol i gydnabod ei arweinyddiaeth a鈥檌 ragoriaeth wrth 
fuddsoddi yn y gymuned.