Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lliw yn y Llyfrgell
  		Published: 29/09/2015
Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o bortreadau鈥檙 artist o Frychdyn, Clayton 
Langford, yn yr oriel ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle drwy gydol mis Hydref.
Dyma鈥檙 bumed yn y gyfres o arddangosfeydd, Art in the Library 鈥 Lliw yn y 
Llyfrgell, sy鈥檔 anelu at gynorthwyo artistiaid lleol, rhai ohonynt sydd erioedd 
wedi arddangos eu gwaith o鈥檙 blaen, drwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith 
i鈥檙 cyhoedd.  Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen arddangos yn Llyfrgelloedd 
Sir y fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie Hoopert, Emma Jayne-Holmes a 
Clayton Langford, brasluniau gan Scott Bongo a ffotograffau gan Ceridwen 
Barkley.
Meddai Clayton am ei waith: 鈥淩wy鈥檔 artist aml-gyfryngau o Frychdyn, Sir y 
Fflint.  Rwy鈥檔 mwynhau archwilio a gweithio gydag amryw o wahanol gyfryngau gan 
gynnwys pensil graffit, inc, paent acrylic a dyfrlliw.  Fel artist portreadau, 
rwy鈥檔 dwyn fy ysbrydoliaeth o fy angerdd tuag at gerddoriaeth o amryw o genres.鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
Rwy鈥檔 falch fod t卯m Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau a gwasanaeth 
Llyfrgelloedd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein doniau lleol - gan 
arddangos eu gwaith a chynorthwyo ein hartistiaid fel busnesau.鈥
Cynhelir arddangosfa breifat o waith Clayton am 5.30pm ddydd Iau 1 Hydref a 
chaiff ei waith ei arddangos drwy gydol mis Hydref. 
Os hoffai unrhyw wneuthurwyr, artistiaid a chrefftwyr arddangos eu gwaith fel 
rhan o fenter Lliw yn y Llyfrgell 鈥 Art in the Library鈥 gallant e-bostio 
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gyda thri llun o鈥檜 gwaith a datganiad byr am 
eu harferion celf neu grefft.
 Lluniau Clayton Langford.docx