Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Wythnos Fusnes Sir y Fflint 13 - 16 Hydref
  		Published: 24/09/2015
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015 bron yma!
Cynhelir y digwyddiad mawreddog, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn, rhwng 13 
ac 16 o Hydref. Ein prif noddwyr eleni yw:
AGS Security Systems (yn noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint)
Westbridge Furniture Designs (yn noddi鈥檙 Arddangosfa Busnes)
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi dod yn un o鈥檙 digwyddiadau pwysicaf oi 
fath yn y rhanbarth, gan ddenu tua 2,000 o gynrychiolwyr o fusnesau bob 
blwyddyn.  Maen cefnogi鈥檙 gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol yn y 
rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmn茂au, datblygu cyfleoedd masnachu ac i 
godi proffil yr ardal fel cymuned fusnes fywiog ac yn lle gwych i fuddsoddi. 
Maer rhaglen wedi cael ei datblygu gyda anghenion busnesau lleol mewn golwg, 
ac eleni byddwn yn canolbwyntio ar gysylltu busnesau 芒 gwleidyddiaeth, yr 
economi a rhagolygon y dyfodol ar gyfer twf.
Mae uchafbwyntiau eleni yn cynnwys:
Yr Arddangosfa Busnes ar 13 Hydref yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy a fydd 
yn rhoi llwyfan i arddangos busnesau lleol a chyfleoedd B2B, yn ogystal 芒 
seminarau ar dwf swyddi yng Nghymru, cyfryngau cymdeithasol, band eang cyflym 
iawn a phrentisiaethau a hyfforddiant. 
Yr Economi Cenedlaethol a Rhanbarthol ar 15 Hydref yng Ngwesty Dewi Sant, 
Ewloe, lle bydd siaradwyr yn tynnu sylw at bynciau gan gynnwys llwyddiant 
busnes, cyflwr y genedl a datblygu sgiliau rhanbarthol. Ymhlith y siaradwyr 
bydd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint a fydd yn siarad am yr 
economi leol.
Ar 16 Hydref bydd cyfle i fusnesau gymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda AC 
ac AS yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy. Mae鈥檔 gyfle gwych i fusnesau i 
ymgysylltu 芒 gwleidyddion yn cynrychioli pob plaid etholedig ac i ofyn 
cwestiynau.
Mae鈥檙 themar rhagolygon rhanbarthol ar gyfer twf ar 14 Hydref yng Ngwesty 
Springfield, Treffynnon, yn cynnwys seminarau ar Gynllun Trafnidiaeth Lleol a 
Chenedlaethol, Prosiect Carchar Gogledd Cymru a phrosiectau adeiladu yn y 
sector gyhoeddus. Bydd busnesau yn cael gwybod am y prosiectau a sut y gallant 
gymryd rhan yn y broses.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, 
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein 
hardal ar y map.  Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y 
sectorau cyhoeddus a phreifat. Byddwn yn annog cymaint o fusnesau 芒 phosibl i 
gymryd rhan ac i wneud y mwyaf or cyfleoedd gwych sydd ar gael trwy gydol yr 
wythnos. Maen llwyfan gwych i rwydweithio ac i broffilio busnesau Sir y Fflint 
ir gynulleidfa ehangaf posibl.
Am fanylion pellach ar yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos 
Fusnes ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch 芒r t卯m Wythnos 
Fusnes ar 01352 703219.