Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cadwn Ddiogel ac yn Gynnes y Gaeaf hwn
  		Published: 24/09/2015
Mae Gwasanaeth Diogelur Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa trigolion a 
busnesau i fod yn ddiogel y gaeaf hwn trwy ddiogelu eu hunain rhag y risg o 
wenwyno carbon monocsid o offer gwresogi diffygiol neu sydd wedi eu cynnal yn 
wael.
Bydd llawer o bobl yn troi eu systemau gwresogi ymlaen am y tro cyntaf mewn 
sawl mis wrth i ni wynebu鈥檙 hydref ar gaeaf ac maen hanfodol bod yn ymwybodol 
o beryglon gwenwyn carbon monocsid.
 
Mae carbon monocsid (CO) yn nwy gwenwynig y gellir ei gynhyrchu os yw cyfarpar 
megis poptai, gwresogyddion, tanau a boeleri wedi eu gosod yn anghywir, eu 
trwsio yn wael neu eu cynnal yn wael.  
Cyfeirir aton aml fel y lladdwr distaw oherwydd na ellir ei weld, nid ywn 
arogli ac ni ellir ei flasu. Gall achosi salwch, coma neu farwolaeth pan maen 
datblygu mewn mannau caeedig.  Mae arwyddion rhybudd o wenwyn yn cynnwys cur 
pen, cyfog, chwydu, pendro, teimlon gysglyd a dryswch.  Yn anffodus, nid yw 
pobl yn sylweddoli鈥檔 aml eu bod yn cael eu goresgyn gan nwyon CO nes ei fod yn 
rhy hwyr.  Ar lefelau is gall gynhyrchu symptomau syn debyg i ffliw neu wenwyn 
bwyd. Mae Carbon Monocsid yn achosi tua 50 o farwolaethau damweiniol hysbys ac 
oddeutu 200 o anafiadau difrifol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.
Mae trigolion a busnesau鈥檔 cael eu hatgoffa bod angen gwasanaethu鈥檙 holl 
foeleri ac offer nwy (hen neu newydd) a gwirio simneiau a ffliwiau gan 
arbenigwr bob blwyddyn. Dylair rhai sydd ag offer llosgi tanwydd solet drefnu 
i lanhau鈥檙 simnai o leiaf unwaith y flwyddyn, yn ddelfrydol cyn pob gaeaf, gan 
y gall nythod adar, gwaith cerrig a rwbel syrthio, yn ogystal 芒 gweoedd pry cop 
a dail sy鈥檔 gallu rhwystro simneiau ac atal neu leihau llif yr aer gan achosi 
carbon monocsid yn y cartref yn hytrach na chael ei awyrun ddiogel y tu allan.
Maer Cyngor hefyd yn annog trigolion a busnesau i ffitio larwm carbon monocsid 
clywadwy.  Maer rhain yn debyg i larymau mwg ac maent ar gael or rhan fwyaf o 
adwerthwyr DIY. Ni ddylair rhain, fodd bynnag, gymryd lle gwasanaethu 
rheolaidd.
Fel rhywun gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant nwy, dywedodd y 
Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Strategaeth 
Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: 鈥淢ae iechyd a diogelwch holl aelodau ein 
cymuned ac ymwelwyr in sir yn o鈥檙 pwysigrwydd a phryder mwyaf.  Ni ellir 
gorbwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod cyfarpar yn cael eu gwasanaethun 
rheolaidd a gosod larwm carbon monocsid clywadwy. Os ydych yn meddwl eich bod 
yn cael eich effeithio gan effeithiau Carbon Monocsid fech cynghorir i 
ddiffodd eich offer, agor eich ffenestri a chael peiriannydd sydd wedi鈥檌 
gofrestrun briodol edrych ar yr offer cyn gynted ag y bo modd. Dylech hefyd 
geisio cymorth meddygol a dweud wrthynt eich bod yn credu y gallech fod yn 
agored i Garbon Monocsid   
Mae rhagor o wybodaeth ynglyn 芒 pherygl Carbon Monocsid ar gael yn 
www.covictim.org neu www.co-angels.co.uk
Nodiadau ir golygydd
1. Am fwy o wybodaeth ewch i www.covictim.org neu www.co-angels.co.uk 
2. Mae carbon monocsid (CO) yn nwy gwenwynig di-liw heb arogl na blas a 
gynhyrchwyd gan losgi tanwydd carbon yn anghyflawn, gan gynnwys nwy, olew, pren 
a glo. Mae tanwydd syn seiliedig ar garbon yn ddiogel iw ddefnyddio. Dim ond 
pan na fydd y tanwydd yn llosgin iawn (fel yn absenoldeb digon o aer) mae 
gormod o CO yn cael ei gynhyrchu. 
3. Mae gan ein gwaed elfen or enw hemoglobin, sydd fel arfer yn amsugno 
ocsigen yn ein hysgyfaint ac yn ei gario i weddill y corff. Ond mae haemoglobin 
yn amsugno Carbon Monocsid 240 gwaith yn haws nag ocsigen.  Felly, pan fyddwn 
yn anadlu Carbon Monocsid or aer, y nwy gwenwynig hwn, yn hytrach nag ocsigen 
syn glynu ei hun ir hemoglobin, gan newynu鈥檙 corff rhag ocsigen. Po leiaf y 
person, po gyflymaf y gall y corff gael ei oresgyn gan effeithiau Carbon 
Monocsid.
4. Mae yna weithiau ddangosyddion corfforol a all awgrymu nam gydag offer 
domestig neu ffliwiau. Arwyddion o drafferth yw marciau huddygl du ar y bariau 
clai uwchben y fflamau nwy o danau nwy, marciau huddygl ar y wal o gwmpas st么f, 
boeleri neu danau a mwg yn cronni mewn ystafelloedd oherwydd ffliwiau 
diffygiol.  Mae fflamau melyn yn lle glas o offer nwy yn arwydd arall y gallai 
fod nam ar yr offer.