Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae angen eich barn ar welliannau Stryd Fawr yr Wyddgrug
Published: 11/01/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref yr Wyddgrug angen eich barn ar gynigion i wella ac uwchraddio Stryd Fawr yr Wyddgrug.听听
Yn dilyn dyfarniad llwyddiannus o gyllid Llywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon ac yn ffurfio rhan o gynnig cludiant integredig ehangach ar gyfer yr Wyddgrug, mae鈥檙 Cyngor yn cynnig pecyn o fesuriadau wedi鈥檜 hanelu at wella bywiogrwydd y Stryd Fawr, lleihau cyfraddau traffig a gwella鈥檙 amgylchedd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae'r cynigion yn cefnogi amcanion polisi a nodir yng Nghynllun Tref yr Wyddgrug, yn cefnogi鈥檙 dyheadau yn Neddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn ogystal 芒 chydymffurfio 芒 gweledigaeth Strategaeth Gludiant newydd Llywodraeth Cymru sy鈥檔 anelu i annog mwy o gerdded, beicio a dulliau teithio cynaliadwy.
Mae amlinelliad o鈥檙 cynigion yn cynnwys:
- Ffurfweddu Stryd Fawr Is i System Un Ffordd barhaol (cyfeiriad tua'r de)
- Cyflwyno l么n feicio dwy ffordd ar Stryd Fawr Is gan gynnwys cyfleusterau beicio gwell.
- Lledu palmant dwyreiniol i wneud y gorau o wagle troedffordd (yn arbennig ar y mannau sydd 芒 nifer uchel o ymwelwyr) a lleihau mannau cul i gerddwyr.听
- Mannau parcio dwyreiniol i鈥檞 cadw yn dilyn lledu鈥檙 droedffordd bresennol.
- Cadw鈥檙 palmant gorllewinol fel y mae.
- Cadw鈥檙 mannau parcio gorllewinol fel y maent.
- Uwchraddio'r goleuadau traffig presennol i wella llif cerddwyr a cherbydau.听
- Strydlun gwell gan gynnwys mannau i eistedd a phlanhigion.
- Mae dewis hefyd (er nad yw鈥檔 rhan hanfodol o鈥檙 cynllun) i weithredu Gwelliannau Teithio Llesol i鈥檙 Stryd Fawr Uchaf a fydd yn golygu ail-werthuso'r trefniadau parcio presennol.听
Mae eich barn yn bwysig ac fe fydd yn ein helpu i ddarparu cynllun 鈥榳edi鈥檌 deilwra鈥� gan fodloni anghenion y gymuned leol. Rydym eisiau gwella鈥檙 Stryd Fawr drwy wneud ein rhwydweithiau鈥檔 fwy diogel a gwella cysylltiad o fewn y dref.
Rydym ni eisiau clywed eich barn am ein cynigion, fodd nad yw hi鈥檔 bosibl cynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yn sgil cyfyngiadau Covid-19 cyfredol.听
Yn lle hyn, byddwn yn gofyn i roi eich safbwyntiau ar y cynigion ar-lein drwy ein tudalen ymgynghori dynodedig yn a chwiliwch am 鈥楪welliannau Stryd Fawr yr Wyddgrug鈥� lle mae holiadur byr wedi鈥檌 gynnwys ar gyfer eich sylwadau.听
Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, yna gallwch ffonio i gofrestru eich barn ar: 01352 701234.听
Mae鈥檙 cyfnod ymgynghori ar agor tan hanner nos ar 29 Ionawr 2021.听
听