天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Economi Gylchol yn dod i Fwcle

Published: 11/01/2021

Circular economy.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint a Refurbs 天涯社区 yn falch o gyhoeddi eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd i鈥檙 鈥楪ronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21鈥� i ddod a chyllid i Fwcle ar gyfer prosiect newydd a chyffrous yng nghanol y dref.听

Bydd y prosiect hwn yn darparu Canolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio newydd gyda chaffi cymunedol yng nghanol tref Bwcle yn hen adeilad banc HSBC. Bydd y cyfleuster yn hybu cydlyniant cymunedol trwy fentrau atgyweirio ac ailddefnyddio, wrth ddarparu cyfle i gefnogi adfywio un o ganol trefi Sir y Fflint.听

Nod hirdymor y prosiect yw hyrwyddo addysg a newid mewn ymddygiad o ran gwastraff a mentrau ailgylchu, gan ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth ar gyfer pobl leol, creu lleoliad deniadol a diddorol yng nghanol y dref, wrth gefnogi cynllun adfywio strategol y dref a bwysicaf oll, creu lleoliad i鈥檙 gymuned ddod ynghyd.听

Yn ganolbwynt i鈥檙 cyfan mae lletygarwch yr amgylchedd caffi ymlaciol, a bydd y gwasanaeth dechreuol a gynigir yn y cyfleuster yn cynnwys:

  • Darparu gwasanaeth atgyweirio ar gyfer eitemau bychain y ty.听
  • Darparu arddangosiadau ar dechnegau uwchgylchu/atgyweirio sylfaenol a ellir eu gwneud gartref.
  • Darparu gwybodaeth ar sut i gyfrannu eitemau diangen yn y ty a all gael eu hadnewyddu neu eu hailgylchu.听
  • Cynnal gweithdai a gweithgareddau gwirfoddoli i greu darnau a ellir eu gwerthu ar gyfer y caffi o ddeunyddiau wedi鈥檜 hailgylchu neu eitemau diangen.
  • Arddangos eitemau i鈥檞 prynu wedi鈥檜 cynhyrchu o ddeunyddiau wedi鈥檜 hailgylchu.

Cafodd y cynnig llwyddiannus ei hybu gan Weithgor Canol Tref Bwcle sy鈥檔 cynrychioli Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle. Mae鈥檙 grwp wedi cael ei sefydlu i ddenu buddsoddiad ac archwilio cyfleoedd newydd i gefnogi adfywiad canol y dref.

听