Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grant Gwella Strydlun Glannau Dyfrdwy
Published: 22/09/2015
Mae cynllun grant sy鈥檔 targedu siopau a busnesau masnachol yn nhrefi Cei
Connah, Garden City, Shotton a Queensferry yn cael ei ail-lansio ym mis Medi
gyda lefel uwch o gymorth.
Mae grantiau hyd at 拢15,000 ar gael i bob eiddo i wella ymddangosiad allanol
siopau ac adeiladau masnachol ac mae ceisiadau鈥檔 cael eu croesawu gan
berchnogion a thenantiaid busnesau.
Mae nodiadau cyfarwyddyd a ffurflenni mynegi diddordeb ar gael ar wefan y
cyngor www.siryfflint.gov.uk, neu gellir eu hanfon trwy e-bost neu drwy鈥檙
post. Cysylltwch 芒 Rebecca Alfonso ar (01352) 702016, neu drwy e-bostio
Rebecca.alfonso@flintshire.gov.uk
Mae鈥檙 cynllun grant yn rhan o Raglen Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
Llywodraeth Cymru yng Nglannau Dyfrdwy sy鈥檔 cael ei ddarparu ar y cyd 芒 Chyngor
Sir y Fflint.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu鈥檙 Economi: 鈥淢ae
busnesau bach yn hanfodol i iechyd ein strydoedd mawr a bydd y cynllun grant
hwn yn helpu busnesau i fuddsoddi yn eu heiddo, denu cwsmeriaid a gwella
ymddangosiad canol ein trefi鈥.