Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae cymorth ar gael ar wefan y Cyngor i bobl sydd yn byw gyda dementia
Published: 15/12/2020
Mae map newydd wedi鈥檌 ychwanegu ar wefan Cyngor Sir y Fflint i gefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia yn y Sir.听
Mae鈥檙 map yn dangos lleoliadau cymunedau cyfeillgar i ddementia, caffis cof a sefydliadau a gwasanaethau sydd yn rhan o raglen busnesau cyfeillgar i ddementia sy'n cael ei gynnal drwy bartneriaid, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS).听
Bydd defnyddwyr yn gallu chwilio鈥檙 map i ddod o hyd i leoliadau yn eu hardal, ochr yn ochr 芒 gorsafoedd bysiau a chyfleusterau cymunedol eraill a all eu helpu i gynllunio eu taith. Mae opsiwn gweld y stryd ar gael hefyd, lle gall defnyddwyr weld llun o'r lleoliad, gan eu helpu i adnabod eu lleoliad a thirnodau.听
Mae鈥檙 map a chanllaw i ddefnyddwyr wedi cael ei ddatblygu o ganlyniad i syniad gan Zoe Robinson a swyddogion yn Adran TG, ar 么l mynychu sesiwn a gynhaliwyd gan hyrwyddwr cyfeillion dementia ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir.听
Bu i bobl sydd yn byw 芒 dementia a鈥檜 gofalwyr weithio gyda鈥檙 Cyngor a NEWCIS i ddatblygu map a chanllaw i ddefnyddwyr fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu ymhellach ymwybyddiaeth o ddementia a chefnogaeth ledled y sir.听听
Dywedodd Chris Roberts, sy鈥檔 byw 芒 dementia:
听鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn yn arloesol iawn a bydd yn ddefnyddiol iawn i bobl wybod lle a pha sefydliadau a fydd yn eu gwneud i deimlo鈥檔 ddiogel ac i鈥檞 deall, yn arbennig yn ystod cyfnod lle'r ydym i gyd yn teimlo鈥檔 eithaf unig ac ar ein pen ein hun.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
听鈥淢ae hwn yn ychwanegiad gwych i鈥檔 gwefan yr ydym wedi鈥檌 ddatblygu i bobl sy鈥檔 byw 芒 dementia a鈥檜 gofalwyr sydd yn cael trafferth dod o hyd i鈥檙 hyn sydd ar gael iddynt yn eu cymuned.听
听鈥淏ydd y tudalennau yn dod ag amrediad o wybodaeth ynghyd mewn un lle, gan weithredu fel cyfeiriadur o wasanaethau cymorth. Bydd pobl sy鈥檔 byw gyda dementia a'u gofalwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill yn gallu edrych ar y map hwn i gael mynediad at wybodaeth defnyddiol.听 Bydd y tudalennau鈥檔 parhau i gael eu diweddaru wrth i ni ddysgu mwy am gefnogaeth leol.鈥澨 听
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei gydnabod fel sefydliad sy鈥檔 鈥楪weithio Tuag at Ddod yn Gyfeillgar i Ddementia鈥 drwy Raglen Cymunedau Cyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer.听
Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau sy鈥檔 Deall Dementia y Gymdeithas Alzheimer yn ceisio annog pawb i rannu cyfrifoldeb dros sicrhau fod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau, er mwyn iddynt allu ymateb yn well i anghenion unigolion sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.听
听
听