天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llofnodi trawst yn Ysgol Uwchradd Castell Alun

Published: 14/12/2020

Mae rhaglen foderneiddio ysgolion Sir y Fflint yn magu momentwm gyda seremoni lofnodi trawst yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr H么b.听听

Mae鈥檙 Cyngor yn buddsoddi bron i 拢5 miliwn o鈥檌 rhaglen gyfalaf yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, ar gyfer bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg tri llawr, newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol gyda mannau addysgu cyffredinol, swyddfeydd a thoiledau. Mae鈥檙 prosiect hefyd yn cynnwys dymchwel y bloc technoleg presennol i greu mannau parcio ychwanegol a gosod to newydd ar yr adran gerdd bresennol.

Bydd y gwaith hwn yn creu gofod addysgu newydd sy'n ysbrydoli myfyrwyr ac athrawon yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i'r gymuned.Cyfanswm y buddsoddiad yw ychydig mwy na 拢7.6 miliwn.

Dechreuodd y contractwyr, Willmott Dixon, weithio ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl i鈥檙 gwaith gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022. Hyd yma, mae鈥檙 gwaith wedi cynnwys gosod y sylfaeni ar gyfer yr adeilad newydd, gwaith draenio, tarmacio a gosod llinellau ar y maes parcio bysiau.

Mae'r trawst dur wedi cyrraedd bellach ac mae ei osod yn garreg filltir sylweddol i鈥檙 prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn dal i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i bob un o鈥檔 dysgwyr. Roedd yn ddymunol i ymweld ag Ysgol Uwchradd Castell Alun i weld y gwaith adeiladu ar yr adeilad newydd yn dechrau siapio. Bydd y datblygiadau yn yr Ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau dysgu sydd ar gael ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2022.鈥

Dywedodd y Pennaeth yn yr ysgol, Paul Edwards:

鈥淢ae'r bloc addysgu newydd cyffrous hwn wedi cael ei adeiladu i safon uchel, i ddarparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf a'r cyfleoedd dysgu gorau i'n dysgwyr a鈥檙 gymuned ehangach. Edrychaf ymlaen at weld yr adeilad hwn yn datblygu dros y misoedd i ddod.鈥

Dywedodd Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr yn y Gogledd ar gyfer Willmott Dixon:

鈥淩ydym yn falch iawn ein bod yn chwarae rhan wrth greu鈥檙 cyfleusterau newydd cyffrous hwn a fydd yn cynnig yr amgylchedd gorau un i ddisgyblion ddysgu a datblygu.

鈥淩ydym yn credu mewn datblygu adeiladau ardderchog, trawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a gwella'r amgylchedd fel bod ein byd yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae Ysgol Uwchradd Castell Alun yn brosiect sy鈥檔 cefnogi pob un o鈥檙 amcanion hynny ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol lle bo modd, yn ogystal 芒 chreu cyfleoedd newydd am gyflogaeth leol.鈥

Castell Alun (1 of 2).jpg Castell Alun (2 of 2).jpg