天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plannu coed yn Yr Wyddgrug

Published: 14/12/2020

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint wedi plannu coed yn Ysgol Alun yr Wyddgrug, gan weithio gyda'r ysgol, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Capacity Marketing For Charities a fu鈥檔 hael iawn wrth dalu am brynu鈥檙 coed.听

Plannwyd cyfanswm o 19 coeden, un ar gyfer bob aelod o staff yn Capacity Marketing For Charities.听

Sefydlwyd Capacity, ym Mharc Busnes yr Wyddgrug, yn 2001 gan Stephen Maund, ac ymunodd ei wraig Anne ag o bum mlynedd yn ddiweddarach. Mae鈥檙 cwmni wedi tyfu i fod yn ddarparwr sylweddol o wasanaethau codi arian etifeddiaeth i fwy na 150 o elusennau o enwau adnabyddus i sefydliadau bychan.

Mae Stephen ac Anne Maund, a werthodd y busnes i鈥檙 Cyfarwyddwr Richard Millar ar 么l ymddeol ym mis Medi, wedi rhoi'r coed yma i ddiolch i鈥檙 Wyddgrug am fod yn gartref i swyddfa'r 'teulu dydd' am bedair blynedd ar bymtheg. Mae Capasity yn cyflogi deunaw o bobl a thros y blynyddoedd maen nhw wedi codi dros 拢67 miliwn i elusen.听听

Anne a Stephen Dywedont:听

鈥淵sgol Alun yw鈥檙 lle delfrydol ar gyfer y coed Capacity a byddwn yn mwynhau eu gweld yn tyfu ac yn gwella amgylchedd yr ysgol鈥.

Mae plannu鈥檙 coed yn cyd-fynd 芒'r plannu parhaus ledled yr Wyddgrug a gychwynnwyd gan Gyngor y Dref sydd wedi cynnal ymgynghoriad cymunedol ac wedi canfod lleoliadau ar draws y gymuned ble roedd preswylwyr eisiau gweld mwy o goed yn cael eu plannu.

Dywedodd Aelod Cabinet Cludiant a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:听

鈥淢ae鈥檙 prosiect, a hwylusir gan Gyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cefnogi cyflwyno Cynllun Coed a Coetir Trefol Sir y Fflint sy鈥檔 anelu i gynyddu brigdwf coed trefol o 13% i 18%.

鈥淩ydym wedi gweld gwir ddyhead gan y gymuned a busnesau lleol i ariannu a chefnogi gwelliannau natur trefol megis plannu coed ac ardaloedd blodau gwyllt ledled yr Wyddgrug ac rydym yn hapus iawn i鈥檞 cefnogi. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Capacity Marketing i wneud gwir wahaniaeth i bawb sy鈥檔 defnyddio safle鈥檙 ysgol yn awr ac yn y dyfodol wrth i鈥檙 coed aeddfedu.鈥

Y mwyafrif o鈥檙 coed i鈥檞 plannu fydd coed brodorol sy鈥檔 darparu'r budd mwyaf i fioamrywiaeth. Bydd y coed hefyd yn darparu nifer o fanteision ychwanegol gan gynnwys cefnogi gwell ansawdd aer, gwella edrychiad yr ardaloedd, helpu i leihau dwr wyneb yn gorlifo a darparu cysgod.

Dywedodd y cynghorydd lleol Haydn Bateman:

鈥淔el Cynghorydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Broncoed croesawaf y plannu coed ac edrychaf ymlaen i'r prosiect barhau ar draws yr ardal.鈥澨

Dywedodd y Cynghorydd Tref Teresa Carberry:听

鈥淔el Maer ac aelod o staff addysgu Ysgol Alun, rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar i Capacity Marketing am eu rhodd hael ac i'r myfyrwyr a staff yr ysgol am eu hymgysylltiad gweithredol a chadarnhaol gyda鈥檙 prosiect hwn. Mae鈥檔 chwarae rhan sylweddol yn ymdrechion Cyngor y Dref i gynyddu鈥檙 ganran o frigdwf coed ac yn anelu i wella ein hamgylchedd lleol. 鈥

Students and Capacity with Mayor IMG_8081small.jpg