天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fedrwch chi helpu i roi bocs o lawenydd y Nadolig i blant bregus Sir y Fflint? 

Published: 04/12/2020

TC Christmas Shoebox Appeal image small.jpgYn dilyn llwyddiant ysgubol Ap锚l Bocs Esgidiau'r Enfys yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni, mae Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio unwaith eto i gyflwyno bocs o lawenydd a hapusrwydd y Nadolig i blant bregus o bob oed yn Sir y Fflint.听

Mae'r theatr yn gofyn i bobl addurno a llenwi bocs esgidiau gyda danteithion Nadoligaidd, byrbrydau, teganau, gemau, celf a chrefft, addurniadau Nadolig, hadau neu lyfrau a'u gollwng yn y theatr. Nid oes angen archebu lle, ond gwnewch yn siwr eich bod yn dod 芒'ch bocsys rhwng 2pm a 5pm neu 6pm a 9pm ddydd Gwener 11 - dydd Sadwrn 12 Rhagfyr 2020 a chadw pellter cymdeithasol llym bob amser.听

O'r theatr, bydd y blychau'n cael eu didoli a'u cwarantin i sicrhau eu bod yn ddiogel cyn cael eu dosbarthu mewn partneriaeth 芒'r Nadolig sy'n cael ei fwydo'n dda mewn menter bocs i blant a theuluoedd sy'n agored i niwed ledled Sir y Fflint.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan ewch i:

听

听