Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dysgu trwy hamdden
Published: 09/12/2020
 |
Dysgu trwy hamdden |
Mae rhaglen 鈥榙ysgu trwy hamdden鈥 Aura yn cynnig darpariaeth addysgol i ddisgyblion 14-16 oed ar draws Sir y Fflint sy鈥檔 ei chael yn anodd i ymgysylltu 芒鈥檙 llwybrau mwy traddodiadol at gymwysterau.听 Mae gan lawer o鈥檙 unigolion sydd wedi鈥檜 hatgyfeirio atom gofnodion presenoldeb gwael neu mewn rhai achosion, mae鈥檔 bosibl eu bod wedi鈥檜 gwahardd o鈥檙 ysgol.听
Mae鈥檙 rhaglen yn bartneriaeth rhwng Aura Cymru a Chyngor Sir y Fflint.听 Mae bellach yn ei hail flwyddyn ac mae cohort newydd o 10 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar y rhaglen.
Mae dysgu trwy hamdden yn cynnig darpariaeth amgen broffesiynol sy鈥檔 darparu cymysgedd o gymwysterau chwaraeon a gaiff eu cydnabod yn genedlaethol, profiad gwaith a chyfleoedd arweinyddiaeth a gaiff eu darparu gan diwtoriaid cymwys Aura, Gary Dixon a Dylan Roberts.听
Meddai鈥檙 Cyng. Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淢ae hon yn rhaglen wych, mae鈥檔 helpu pobl ifanc i ganfod eu lle yn y byd a meithrin eu hyder, hunan-barch a sgiliau cymdeithasol wrth gael hwyl.
鈥淢ae dysgu trwy hamdden yn un o nifer o raglenni sy鈥檔 cael eu rhedeg trwy d卯m Cynhwysiant a Datblygiad Cyngor Sir y Fflint, sy鈥檔 gwneud gwaith gwych o ran ymgysylltu 芒 phobl ifanc anodd eu cyrraedd.鈥
Dywedodd Steve Thomas, rheolwr rhaglen Darpariaeth Amgen Aura:
鈥淵n ogystal 芒鈥檙 agwedd chwaraeon, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth hyfforddi a mentora i鈥檔 dysgwyr ac yn darparu cymwysterau a gweithdai ar amrywiaeth eang o bynciau personol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd trwy gysylltiadau cydweithredol 芒 nifer o bartneriaid.听
鈥淥 ganlyniad i lwyddiant y rhaglen, rydym wedi cael cydnabyddiaeth gadarnhaol yn ddiweddar gan uwch reolwyr ac Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint. Eleni, mae gennym gohort newydd o 10 o ddisgyblion wedi鈥檜 cofrestru ar y rhaglen chwaraeon (sy鈥檔 cael ei chynnal ym Mhafiliwn Jade Jones) ac rydym yn gyffrous i ymestyn ein cynnig darpariaeth amgen i redeg rhaglen ychwanegol i gefnogi t卯m sba a harddwch Aura, felly wrth i鈥檔 henw da gynyddu, gobeithio y bydd ein twf i rannau eraill o鈥檙 busnes yn cynyddu hefyd.鈥
听