天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlord yn Sir y Fflint wedi鈥檌 erlyn yn llwyddiannus

Published: 25/11/2020

Successful prosecution.jpegMae T卯m Diogelu Cymunedau a Busnesau Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn landlord preifat yn Sir y Fflint am achos o droi allan yn anghyfreithlon ac aflonyddu鈥檙 meddiannydd preswyl.

Plediodd Paul Andrew Owen a Tracie Anne Owen, Cyfarwyddwyr TASC Holdings Limited, yn euog i droseddau o dan y Ddeddf Diogelu rhag Dadfeddiant 1997, rhai a ddigwyddodd mewn eiddo ar rent ar Deras Dewi Sant yn Saltney ym Medi 2019. Cawsant gosb o 拢1257 yr un a chawsant orchymyn i dalu iawndal o 拢1000 i鈥檙 dioddefwr a gollodd ei gartref a鈥檌 holl eiddo personol.听

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

鈥淢ae鈥檙 erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu preswylwyr yn erbyn achosion o droi allan anghyfreithlon gan landlordiaid. Mae鈥檔 adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli鈥檔 briodol.鈥�

听