天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn dangos eu hymrwymiad i ddod a thrais dynion yn erbyn merched i ben trwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn

Published: 23/11/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dangos eu hymrwymiad i ddod a trais dynion yn erbyn merched i ben trwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn.

Mae鈥檙 Rhuban Gwyn yn ymgyrch fyd-eang sy鈥檔 annog pobl, yn arbennig dynion a bechgyn, i weithredu yn unigol a gyda鈥檌 gilydd a newid ymddygiad a diwylliant sy鈥檔 arwain at gamdriniaeth a thrais. Wrth wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid i beidio cyflawni, esgusodi neu aros yn ddistaw am drais dynion yn erbyn merched.

Mae鈥檙 cyngor wedi ymrwymo i gynllun gweithredu dwy flynedd i fynd i鈥檙 afael 芒 thrais dynion yn erbyn merched, gan gynnwys llawer o鈥檙 hyn mae鈥檙 cyngor eisoes yn ei wneud yn ogystal 芒 chefnogi mentrau newydd, megis datblygu Polisi Trais Domestig a Rhywiol ar gyfer gweithwyr ac aelodau鈥檙 cyngor, penodi llysgenhadon gwirfoddol i ledaenu鈥檙 neges i fwy o ddynion, a gweithio tuag at fabwysiadu polisi dim goddefgarwch tuag at drais yn erbyn merched.

Mae rhan o鈥檙 gwaith sydd ei angen i gyflawni statws achrededig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o鈥檙 ymgyrch, ymgysylltu 芒 dynion a bechgyn i gynorthwyo i ddileu trais dynion tuag at ferched, a gweithio gyda chlybiau chwaraeon a lleoliadau cerddoriaeth i ddatblygu polis茂au yn unol 芒 neges yr ymgyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio:听

"Fel cyngor rydym yn cefnogi鈥檙 achos yn gryf ac mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych i ddangos cefnogaeth.听

"Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher, 25 Tachwedd.听Gyda mwy ohonom yn treulio mwy o amser gartref, mae鈥檔 bwysicach nac erioed i ni sefyll yn erbyn trais yn erbyn merched. Rhaid i ni gydweithio i atal trais a sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel i bawb."

Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr Rhuban Gwyn y DU:

"Mae ein galwad i ddod a thrais i ben trwy godi ymwybyddiaeth, addysgu ac ymgyrchu am newid yn cael ei gryfhau trwy gydweithio gyda鈥檔 sefydliadau sydd ag achrediad y Rhuban Gwyn. Mae ein partneriaid yn gallu ymgysylltu 芒 miloedd o bobl i newid diwylliannau sy鈥檔 arwain at drais yn erbyn merched. Rydym yn falch o groesawu Cyngor Sir y Fflint fel un o鈥檔 sefydliadau ag achrediad y Rhuban Gwyn. Gyda鈥檔 gilydd gallwn rwystro trais rhag digwydd yn y lle cyntaf."