天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad ar y Cyd gan Gyngor Sir y Fflint ac Aura: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Published: 16/11/2020

Mae Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ynghyd 芒'r Cyngor wedi comisiynu astudiaeth arfarnu opsiynau ar gyfer ailddatblygu safle Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn y dyfodol. Mae'r dyhead am gynnig uwchgynllun yn mynd yn 么l cyn ail-leoli'r safle presennol fel ysbyty enfys ac yn cyflwyno cyfle datblygu cyffrous i leoliad sy'n 50 oed ac yn cyrraedd diwedd ei oes naturiol.

Mae'r prosiect yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i hamdden a chwaraeon, ynghyd ag iechyd a lles, a'r nod hirdymor yw cael lleoliad cymunedol modern ac amlbwrpas a fyddai'n parhau i fod yn destun balchder lleol.

Mae'r astudiaeth arfarnu opsiynau yn cynrychioli'r cam cyntaf tuag at ddarparu datrysiad hirdymor ar gyfer safle mawr o bwysigrwydd strategol i Aura a'r Cyngor. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae Aura yn edrych ymlaen at groesawu ei gwsmeriaid yn 么l i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn 2021 unwaith nad oes angen capasiti ychwanegol i gefnogi darpariaeth gwasanaethau gofal iechyd yng Ngogledd Cymru.

听

听