Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalu am Ofalwyr Sir y Fflint 鈥� 16 i 22 Tachwedd 2020
Published: 16/11/2020

Mewn ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni鈥檙 galw cynyddol am ofal, mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru a Gwobr Cymorth Arweinydd drwy Cadwyn Clwyd, wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy鈥檔 gallu darparu gofal i鈥檞 breswylwyr. Enw鈥檙 dull newydd hwn yw Meicro-Ofal.听
Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy鈥檔 amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy鈥檔 cyflogi pump o bobl, sy鈥檔 cynnig gwasanaethau gofal, cefnogi neu les hyblyg wedi鈥檜 personoli (fel siopa, glanhau neu gwmn茂aeth) i bobl ddiamddiffyn, wedi鈥檜 teilwra i anghenion yr unigolyn. Gall y meicro-ofalwyr hyn roi cefnogaeth neu ofal i rywun sydd wedi cael asesiad ffurfiol o fod angen gofal gan yr awdurdod lleol a gallant hefyd gynnig amrediad o ddatrysiadau gwasanaeth i bobl sydd eisiau prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat.听
Mae鈥檙 prosiect meicro-ofal yn edrych ar annog pobl i fod yn ofalwyr-meicro hunangyflogedig. Gall pobl ddod o amrywiaeth o gefndiroedd. Gallai hyn fod yn bobl sydd 芒:听
- Diddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal i bobl hyn ond nad oes ganddynt brofiad o bosibl
- Gweithio yn y sector gofal ar hyn o bryd ond sydd 芒 diddordeb mewn bod yn fos arnynt eu hunain
- Cefnogi pobl yn weithredol yn eu cymunedau lleol
- Am wneud rhywbeth sy鈥檔 cefnogi pobl eraill a gwneud gwahaniaeth.听
Mae ein dau Swyddog Datblygu Meicro-ofal, Robert Loudon a Marianne Lewis wedi bod yn gweithio gydag unigolion i鈥檞:听
- Cefnogi i ddatblygu eu busnes neu eu syniad
- Darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid a chefnogaeth ac adnoddau eraill sydd ar gael
- Cefnogi unigolion i ddatblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd yn unol 芒 deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru
- Darparu cefnogaeth iddynt gan meicro-ofalwyr eraill. Rydym wedi sefydlu cyfarfod rhwydwaith ar-lein ble gall meicro-ofalwyr rannu syniadau a chefnogi ei gilydd.听
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae鈥檙 Swyddogion Datblygu wedi bod yn brysur yn hybu鈥檙 prosiect ac yn cefnogi rhai 芒 diddordeb i ddechrau eu busnesau eu hunain ac o ganlyniad, mae ganddynt 9 menter meicro-ofal newydd yn cynnig gwasanaethau ar draws Sir y Fflint, gyda 7 o bobl eraill yn gweithio drwy ein Rhaglen Meicro-Ofal ar hyn o bryd. Mae鈥檙 mentrau meicro-ofal canlynol yn masnachu ar hyn o bryd:
- Just ask Toby
- Cartrefle Care
- Katherine鈥檚 Home Care and Support
- TLC (Trelawnyd Living Care and Enabling)
- Gofal Cartref Opal
- Your Choice @Home service
- Sally鈥檚 Helping Hands
- Myther Me
- Your Trusted Friends
Mae ein darparwyr meicro-ofal i gyd yn dod o amrywiol gefndiroedd ac yn cynnig nifer o sgiliau gwahanol i鈥檙 r么l ac mae鈥檙 cyfan yn helpu pobl i naill ai aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy neu gefnogi eu lles parhaus.听
Os hoffech wybod mwy am sut i fod yn ddarparwr meicro-ofal neu os byddwch eisiau manylion cyswllt unrhyw un o鈥檔 darparwyr meicro, gallwch ymweld 芒 neu gysylltu 芒 naill ai Marianne neu Rob ar 01352 702126 neu 01352 701461 am sgwrs anffurfiol.
听