Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol
Published: 11/11/2020
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Panel Diogelu Corfforaethol pan fydd yn cwrdd ddiweddarach fis yma.听
Dylai bod holl weithwyr y Cyngor, beth bynnag fo鈥檜 gwasanaeth, yn cefnogi'r ddyletswydd i ddiogelu. Ffurfiwyd y Panel Diogelu Corfforaethol (y Panel) fis Rhagfyr 2015 ac mae鈥檙 adroddiad yn nodi鈥檙 camau a gymerwyd i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau diogelu corfforaethol cadarn ar waith. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:听
- Darparu hyfforddiant diogelu arddull drama i鈥檙 sector Blynyddoedd Cynnar
- Cynnwys cymalau diogelu o fewn gofynion trwyddedu gyrwyr tacsis
- Darparu hyfforddiant diogelu i dros 400 o yrwyr tacsis i sicrhau eu bod yn adnabod arwyddion camdriniaeth bosib a sut i adrodd achosion o鈥檙 fath
- Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar Operation Encompass (menter i gefnogi plant a phobl ifanc sy鈥檔 dioddef neu鈥檔 gweld yr heddlu yn delio 芒 digwyddiadau cam-drin domestig)
- Gweithdai Cyfiawnder mewn Diwrnod Theatr Clwyd. Roedd y perfformiad rhyngweithiol hwn yn cynnwys gweithdy gyda th卯m o actorion proffesiynol ac ymweliad cyfranogol 芒 Llys yr Ynadon, yr Wyddgrug, lle鈥檙 oedd ynad go iawn hefyd yn cymryd rhan
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ac aelod o鈥檙 Panel:听
"Yn adroddiad ei arolwg ar Awdurdod Addysg Lleol Sir y Fflint yn 2019 mae Estyn yn canmol y Panel, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi cydnabod gwaith y panel. Mae鈥檙 Grwp Diogelu traws-wasanaethau yn dechrau dylanwadu鈥檔 gadarnhaol ar waith ysgolion arloesi Sir y Fflint, sydd wrthi鈥檔 datblygu agwedd iechyd a lles y cwricwlwm newydd.
"Mae Sir y Fflint yn ymrwymo i鈥檞 gyfrifoldebau ac, fel y nodir yn yr adroddiad, mae wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion."
Ychwanegodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, sydd hefyd yn aelod o鈥檙 panel:
"Mae鈥檙 adroddiad yn amlygu straeon newyddion da gan gynnwys enghraifft o sut bu i gydweithio rhwng ein Gwasanaethau Tai, ein T卯m Diogelu Oedolion a sefydliad trydydd sector ddiogelu dioddefwr benywaidd rhag caethwasiaeth fodern. Ar 么l i鈥檙 T卯m Tai adnabod y dioddefwr ac adrodd eu pryderon, cafodd y ferch gymorth priodol a lle mewn ty noddfa.
"Mae hyn yn dangos pa mor bwysig ydi hi i bob gweithiwr a chontractwr fynegi eu pryderon er mwyn sicrhau bod modd cynnal ymchwiliadau a chymryd camau gweithredu priodol."
Mae鈥檙 camau gweithredu allweddol i鈥檞 cwblhau yn 2020/21 yn cynnwys:
- Cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2020 i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion diogelu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern
- Annog gweithwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru "Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Erbyn Menywod" i gyrraedd cyfradd cwblhau o 100% erbyn mis Mawrth.
- Codi ymwybyddiaeth o Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru.
听