天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arriva - Gwasanaeth 5 Yr Wyddgrug i Ellesmere Port

Published: 06/11/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint heddiw wedi cyhoeddi mai Arriva Cymru Cyf fydd y gweithredwr newydd ar gyfer y Gwasanaeth 5, yr Wyddgrug i Ellesmere Port o ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.听 Noder na fydd unrhyw newid i'r gwasanaeth presennol a bydd amlder yr amserlen bresennol yn parhau.听

Fodd bynnag, ar 9 Tachwedd, bydd Arriva yn defnyddio'r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a bydd yn darparu cyfrwng dyblyg i gynorthwyo gyda chapasiti ar adegau prysur.听 Bydd gan y cerbyd hwn fwrdd cyrchfan "S5" i'w adnabod.听 Derbynnir y tocynnau ysgolhaig presennol hyd nes y gellir cyhoeddi tocynnau bws newydd.

Atgoffir pob teithiwr ei bod yn orfodol gwisgo gorchuddion wyneb ar bob trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd gwybodaeth am yr amserlen ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint neu'n uniongyrchol drwy ddilyn y linc a ganlyn:听.

听