Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gyfalaf
Published: 10/11/2020
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor 2021/22 鈥� 2023/24, pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 12 Tachwedd. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i鈥檙 Cabinet yr wythnos wedyn.听
Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy鈥檔 rhoi gwerth am arian. Mae鈥檙 asedau鈥檔 cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat). Mae鈥檙 buddsoddiadau cyfalaf sy鈥檔 cael eu cynnig yn cyd-fynd 芒 chynlluniau busnes gwasanaethau portffolios a Chynllun y Cyngor.
Cyfyngedig yw鈥檙 adnoddau mae鈥檙 Cyngor yn eu cael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, mae ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg 鈥� trefniant dros dro yw hyn ac yn y pen draw, mae unrhyw fenthyciad yn costio ac yn cael ei ad-dalu o gyllideb refeniw鈥檙 Cyngor, felly mae angen eu hystyried yn ofalus.听
Mae鈥檙 adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair rhan:听
- Statudol / Rheoleiddiol 鈥� dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol, gan gynnwys:
- Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl;
- Y Ddeddf Cydraddoldeb 鈥� lle mae鈥檙 gyllideb angen cynyddu o 拢0.50 miliwn i 拢0.300 miliwn i barhau i wneud gwaith addasu ysgolion.
- Asedau wedi鈥檜 Cadw 鈥� dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy鈥檔 angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes:
- Uwchraddio cyfarpar ceginau ysgolion 鈥� mae cynllun newydd wedi鈥檌 gynnwys yn y gyllideb i uwchraddio hen gyfarpar
- Gliniaduron/cyfrifiaduron newydd 鈥� rhaglen ddisodli "ar y funud olaf" i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf o oes ddefnyddiol ei liniaduron a鈥檌 gyfrifiaduron;
- Uwchraddiadau i gamer芒u TCC mewn mannau cyhoeddus 鈥� prosiect i uwchraddio camer芒u TCC i鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf.
- Buddsoddi 鈥� dyraniadau i ariannu鈥檙 gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi鈥檜 nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y maent wedi鈥檜 cynnwys yng Nghynllun y Cyngor:
- Gwelliannau i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr H么b;
- Estyniad i gartref gofal preswyl Marleyfield ym Mwcle;
- Addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth er mwyn gallu darparu lle addas i gefnogi plentyn;
- Cyfleuster Archifau ar y cyd i Sir y Fflint a Sir Ddinbych 鈥� cyfleuster modern yn lle鈥檙 ddau gyfleuster presennol sy鈥檔 hen ac yn anaddas at eu pwrpas.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Cyngor Sir y Fflint:听
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o raglen y Cyngor wedi鈥檌 hariannu o arian sy鈥檔 elw i鈥檙 Cyngor, ond mae鈥檔 mynd yn fwy anodd gwneud elw ac mae hwnnw bron wedi darfod. Fe fyddwn ni鈥檔 chwilio am asedau i鈥檞 gwerthu i helpu i ariannu鈥檙 Rhaglen Gyfalaf lle bo modd."听
Mae opsiynau i ariannu鈥檙 diffyg yn cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen a chyflawni cynlluniau mewn camau gan y gallai proffil gwariant prosiectau mawr cymhleth newid. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ffynonellau eraill o gyllid yn cael eu defnyddio i ariannu鈥檙 rhaglen.
Er hynny, os na fydd ffynonellau eraill o gyllid ar gael, bydd angen i鈥檙 Cyngor fenthyca鈥檔 ddarbodus i ariannu鈥檙 bwlch.听
Aeth y Cynghorydd Banks yn ei flaen:
"Fe fyddwn ni鈥檔 ceisio sicrhau bod y ffynonellau cyllid uchod yn cael eu defnyddio鈥檔 llawn er mwyn i ni, er gwaethaf yr heriau digynsail yma, allu parhau gyda鈥檔 Rhaglen Gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rydw i鈥檔 falch y byddwn ni鈥檔 gallu gwneud y gwelliannau yma yn ein hysgolion a鈥檔 cartrefi gofal, sy鈥檔 dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn dal i fod yn un blaengar ac arloesol sy鈥檔 buddsoddi yn lles trigolion y Sir."
听