Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Argyfwng y Ffoaduriaid
  		Published: 16/09/2015
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth Cyngor Sir y Fflint ymrwymiad cadarn ar unwaith i 
fod yn rhan o ymateb llywodraeth leol y DU i dderbyn ffoaduriaid sy鈥檔 ffoi o鈥檙 
gwrthryfel yn Syria.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton heddiw (15 Medi) : 鈥淲rth i ni wylio 
trasiedi鈥檙 ffoaduriaid yn datblygu sy鈥檔 ffoi oddi wrth ryfel ac erledigaeth i 
chwilio am loches yn Ewrop, mae鈥檔 hanfodol fod Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 
cymryd camau i ddarparu diogelwch a lloches i ffoaduriaid sydd wedi gorfod 
symud o Syria a gwledydd eraill.  Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn troi ei gefn 
ar y rheiny sy鈥檔 wynebu argyfwng dyngarol. 
Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol ar hyn o bryd i gynnig 
cymorth uniongyrchol.  Byddwn yn cymryd rhan lawn mewn ymdrech unedig gan 
gynghorau ac asiantaethau cymorth tai a phartneriaid o鈥檙 sector gwirfoddol 
ledled Cymru a鈥檙 DU i ddarparu lloches a chymorth dyngarol i ffoaduriaid.
鈥淩ydym yn annog cymunedau Sir y Fflint i gefnogi ein safiad a rhoi arian a 
chyflenwadau i waith elusennol yr asiantaethau cymorth cenedlaethol arweiniol.
鈥淢ae llywodraeth leol yn aros am gyhoeddiad gan gynllun newydd Llywodraeth y DU 
ar gyfer gwasgaru a chynorthwyo ffoaduriaid.
鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi sefydlu grwp ymateb, dan arweiniad y Prif Weithredwr, ac 
mae鈥檔 gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy鈥檔 cydgysylltu鈥檙 
ymateb 鈥榬hanbarthol鈥, gyda Llywodraeth Cymru, ar ran Cymru.  Mae鈥檙 grwp ymateb 
yn un aml-asiantaeth ac mae鈥檔 cynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
鈥淢ae llywodraeth leol yn disgwyl i鈥檙 cynllun gael ei ariannu鈥檔 gyfan gwbl ar 
lefel genedlaethol鈥.
Meddai鈥檙 Prif Weithredwr, Colin Everett: 鈥淵n Sir y Fflint rydym yn bwriadu 
derbyn nifer o deuluoedd bob blwyddyn.  Byddai鈥檙 teuluoedd yn byw mewn tai 
rhentu preifat ac ni fyddent yn effeithio鈥檔 uniongyrchol ar restrau aros ac 
amseroedd ar gyfer tai鈥檙 Cyngor a thai cymdeithasol.  Yr her fwyaf fydd 
integreiddio plant mewn ysgolion gyda chymorth iaith a chwricwlwm llawn, ac 
integreiddio teuluoedd i gymunedau lleol o gofio y bydd y bobl wedi鈥檜 
creithio鈥檔 feddyliol ac yn emosiynol gan y profiad a bydd angen empathi a 
chymorth arnynt.
鈥淣id oes amserlen wedi鈥檌 chreu ar gyfer derbyn y ffoaduriaid cyntaf i鈥檙 Deyrnas 
Unedig, felly dim ond gwneud cynlluniau y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.鈥