Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun i sefydlu Academi Hyfforddi newydd
  		Published: 09/09/2015
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael eu hannog i gymeradwyo cynlluniau i 
sefydlu academi hyfforddi newydd gyda鈥檙 bwriad o greu 250 o swyddi a 40 o 
brentisiaethau newydd ym maes adeiladu dros y pum mlynedd nesaf. Os caiff y 
cynlluniau eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn sefydlu ei Academi Hyfforddi 
Gymunedol a chyflogi hyfforddeion a phrentisiaid mewn yn y byd adeiladu.
Y bwriad yw buddsoddi 拢500m ar brosiectau adeiladu yn y sir dros y pum mlynedd 
nesaf, a byddai鈥檙 Academi鈥檔 ceisio creu cymaint o gyfleoedd 芒 phosibl i鈥檙 
gymuned leol a gadael gwaddol parhaol.
Caiff y buddsoddiad o 拢500m ei wario ar dair rhaglen:
鈥       Safon Ansawdd Tai Cymru, i wella ansawdd tai cyngor y sir
鈥       Ysgolion y 21ain Ganrif sy鈥檔 awr yn adeiladau cyfleusterau addysgol yn 
Nhreffynnon a Chei Connah
鈥       Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i adeiladu 500 o gartrefi 
newydd, a 200 ohonynt yn dai cyngor.
Fel rhan o鈥檙 broses dendro ar gyfer y tair rhaglen, mae angen i gontractwyr 
gadarnhau nifer y swyddi lleol, y cyfleoedd hyfforddi a鈥檙 prentisiaethau a fydd 
ar gael.
Cynigir y byddai鈥檙 Academi wedyn yn rheoli鈥檙 cyfleoedd gwaith y byddai鈥檙 tri 
phrosiect yn eu cynnig. Byddai鈥檔 gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau 
gwaith a hyfforddiant gan gynnwys ysgolion a cholegau, i dargedu pobl ifanc 
16-24 oed nad ydynt mewn addysg na gwaith a鈥檙 rhai sy鈥檔 ddi-waith ers tro, er 
mwyn manteisio i鈥檙 eithaf ar y cyfleoedd a fydd ar gael.
Yn ogystal 芒鈥檙 cynlluniau i greu gwaith, byddai mentrau cymunedol hefyd yn cael 
eu datblygu, fel adnewyddu canolfannau cymuned, digwyddiadau, waliau celf a 
gerddi cymunedol.
Byddai鈥檙 Academi yn hunangynhaliol gan mai contractwyr fyddai鈥檔  ei hariannu 
fel rhan o鈥檜 cytundebau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淢ae llawer o arian yn 
cael ei fuddsoddi yn Sir y Fflint drwy鈥檙 prosiectau hyn ac rydym am sicrhau ein 
bod yn gwneud yn fawr o鈥檙 cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ac yn creu gwaddol 
parhaol i鈥檙 sir a鈥檙 awdurdod. Y nod yw creu dros 250 o swyddi lleol a 40 o 
brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd cymunedau lleol a鈥檙 economi leol 
yn elwa o鈥檙 sgiliau a gaiff eu dysgu.鈥
Bydd Cabinet Sir y Fflint yn trafod y cynlluniau ar 15 Medi.