Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Asesiadau Gyrru Am Ddim i Rai dros 65 oed
  		Published: 02/09/2015
Mae gyrwyr hyn yn Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i dderbyn cynnig o asesiad 
gyrru am ddim.
Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig sesiwn yrru am 
ddim i drigolion dros 65 oed, i鈥檞 helpu i addasu eu harddull gyrru i aros yn 
ddiogel ac yn hyderus ar y ffordd wrth iddynt fynd yn hyn.
Mae hyfforddwyr gyrru o Wasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru sydd wedi cael 
hyfforddiant arbennig yn cynnal asesiadau ac yn darparu cyngor a gwybodaeth i 
helpu pobl hyn i aros y tu 么l i鈥檙 llyw yn hirach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet 
dros yr Amgylchedd: 
鈥淏yddwn yn annog ein preswylwyr dros 65 oed i dderbyn y cynnig hwn am sesiwn 
yrru am ddim.  Wrth i ni heneiddio, gall newidiadau ddigwydd sy鈥檔 effeithio ar 
y ffordd yr ydym yn gyrru, gan gynnwys ymateb yn arafach a chymryd mwy o amser 
i wneud penderfyniadau.  Gall gyrru hefyd achosi mwy o flinder a straen.  Mae 
rhai gyrwyr yn sylwi ar newidiadau tebyg mor gynnar a chanol eu pumdegau.  Wrth 
iddynt heneiddio, gall y rhan fwyaf o bobl barhau i yrru鈥檔 ddiogel ac heb 
unrhyw broblemau, ond gall hyn fod yn haws gydag ychydig o help gan weithwyr 
proffesiynol.鈥
Mae鈥檙 asesiadau gyrru鈥檔 cynnwys gwasanaeth o ddrws i ddrws.
I archebu neu ganfod mwy, cysylltwch 芒鈥檙 Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 
704498.