Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva
  		Published: 27/08/2015
Bydd Sir y Fflint unwaith eto yn croesawu Taith Prydain ddydd Sul 6 Medi wrth i 
lawer o brif feicwyr y byd rasio drwyr sir ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad 
chwaraeon mawreddog hwn.
Heidiodd miloedd ar ochrau llwybr y daith trwy Sir y Fflint y llynedd ac mae鈥檔 
sicr y bydd torfeydd mawr eleni eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr wrth 
i鈥檙 Daith fynd drwy ganol tref yr Wyddgrug, trwy Fwcle ac ymlaen i ddiwedd y 
cymal yn Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet 芒 chyfrifoldeb dros Hamdden,
鈥淢ae Taith Prydain Aviva yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a fydd yn cael 
ei ddarlledu鈥檔 fyw ar ITV1 a bydd yr uchafbwyntiau i鈥檞 gweld ar y teledu ledled 
y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn, ar sylw helaeth yn y wasg leol a 
chenedlaethol ac ar-lein, yn dod 芒 Sir y Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol 
enfawr.
鈥淒yma gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf yn siwr 
y bydd torfeydd mawr i fwynhau cyffro a gwefr y ras.
Mae disgwyl i鈥檙 beicwyr gyrraedd ffin Sir y Fflint yng Nghadole am 14.30, a 
byddant yn teithio ar hyd Ffordd Rhuthun, yr A5119, i mewn i鈥檙 Wyddgrug gan 
orffen trwy wibio ar hyd Stryd Newydd ger Capel Bethesda. Yna bydd y ras yn 
parhau ar hyd Stryd Newydd ac yna鈥檔 ymuno 芒 Ffordd Caer, yr A541, cyn dilyn 
Ffordd yr Wyddgrug, yr A549, drwy Fynydd Isa i Fwcle. Bydd y ras yn parhau drwy 
Fwcle ar yr A549 i Brook Street cyn dilyn yr A550 i鈥檙 H么b a gadael Sir y Fflint 
ar hyd Ffordd Wrecsam, yr A541, am tua 15.00 o鈥檙 gloch. 
Bydd ffyrdd ar gau ar hyd llwybr y daith a allai arwain at oedi o tua 15-20 
munud.
I gael manylion llawn am Daith Prydain Aviva, gan gynnwys gwybodaeth am y 
timau, y beicwyr, ac amserlen y daith ewch i鈥檙 wefan 
http://www.tourofbritain.co.uk