Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Codi baner i ddweud ‘diolch forwyr’ ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol 
  		Published: 28/08/2015
Am 10am ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, 3 Medi, bydd Cyngor Sir y Fflint yn 
chwifio’r Lluman Coch yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug er mwyn codi ymwybyddiaeth o 
ddibyniaeth barhaus y DU ar forwyr y Llynges Fasnachol.
Bydd y Dirprwy Is-gapten David Catherall yn ymuno â Chadeirydd y Cyngor, y 
Cynghorydd Ray Hughes, i arwain seremoni fer cyn codi’r faner.  
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK 
a Chymdeithas y Llynges Fasnachol i annog chwifio baner swyddogol Llynges 
Fasnachol y DU ar adeiladau cyhoeddus a pholion fflagiau o bwys.
Mae Llywydd yr elusen, Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex, wedi cymeradwyor 
ymgyrch, gan ddweud: ‘Ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, rwyf yn gobeithio yn 
fawr y byddwch yn cefnogi’r ymgyrch hon i gofio aberth, saliwtio dewrder a 
chefnogi dyfodol personél ein Llynges Fasnachol sy’n aml yn ddi-glod.’
Dywedodd y Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd y Cyngor: 
‘Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â sefydliadau cyhoeddus eraill 
ledled Cymru ar DU i gydnabod gwaith gwerthfawr y Llynges Fasnachol au 
cyfraniad at les y Genedl.’
Fel ‘cenedl sy’n ynys’, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnachol ar 
gyfer 95% on mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd rydym yn ei fwyta. Mae gan 
y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% on hallforion (yn ôl 
cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, mae rhai ohonynt yn cefnogir 
ymgyrch drwy annog llongau syn ymweld â hwy i ganu eu cyrn am 10am ar 3 Medi.
www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-da
Nodiadau i Olygyddion
Mae croeso i chi anfon ffotograffydd ir brif fynedfa yn Neuadd y Sir, yr 
Wyddgrug am 9.45am ddydd Iau 3 Medi 2015. 
Cyswllt PR Ymgyrch Genedlaethol
Nick Harvey, Rheolwr Ymgyrchoedd, Seafarers UK, ffôn 020 7932 5969, ffôn 
symudol 07910 593588, e-bost nick.harvey@seafarers-uk.org
Nodiadau i Olygyddion
Mae mwy na 400 o awdurdodau lleol ledled y DU wedi eu gwahodd gan Seafarers UK 
a Chymdeithas y Llynges Fasnachol i gymryd rhan yn y ‘Diwrnod Chwifior Lluman 
Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol’.
Y Meistr Pasiant ar gyfer ‘Chwilio’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges 
Fasnachol’ yw Bruno Peek LVO OBE OPR, ffôn 07737 262913, e-bost 
pageantmaster@mac.com
Mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi ei goffáu ers 2000 ar 3 Medi, pen-blwydd 
suddor SS Athenia, y llong fasnach Brydeinig gyntaf a gollwyd yn ystod yr Ail 
Ryfel Byd.
Mae Seafarers UK yn elusen grantiau flaenllaw syn helpu pobl yn y gymuned 
forwrol, trwy ddarparu cyllid hanfodol i gefnogi morwyr mewn angen au 
teuluoedd. Gellir rhoi rhoddion i Gronfa’r Llynges Fasnachol yr elusen yn 
www.merchantnavyfund.org