Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canlyniadau TGAU 2015
  		Published: 20/08/2015
Bydd myfyrwyr TGAU ar draws Sir y Fflint yn awyddus i ddathlu heddiw, wrth i 
ganlyniadau arholiadau cyhoeddus da gael eu cyhoeddi eto yn ysgolion y Sir.
Cyfanswm y ganran o bobl sydd wedi llwyddo i ennill graddau TGAU (A*-G) yng 
Nghymru eleni yw 98.7%, sydd 0.2% yn uwch na鈥檙 llynedd.   Gydar canlyniadau 
gan Fwrdd Arholi Cymru (CBAC), mae鈥檙 gyfradd llwyddo ar gyfer myfyrwyr yn Sir y 
Fflint yn 99.4%, gostyngiad bychan o 0.1% ar y canlyniadau yn y cyfnod hwn yn 
2014.
Cyfran y graddau yn yr amrediad A* i C yn 2015 yw 66.6% ar draws Cymru, yr un 
fath ag yn 2014. Maer graddau llwyddo uwch (A*- C) hyn  ar draws Sir y Fflint 
yn 
68.9% or holl arholiadau cwrs llawn a gymerwyd gyda Bwrdd Arholi Cymru. Mae 
hyn yn 2.3% yn uwch nag ar gyfer Cymru gyfan a 0.7% yn uwch na ffigur Sir y 
Fflint yn yr un cyfnod y llynedd.   
Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint gyda鈥檙 
Bwrdd Cymreig yn 2015 yn 19.4%, sydd 2.2% yn uwch na鈥檙 un cyfnod yn
2014.   Ar draws Cymru gyfan mae鈥檙 ffigur hwn wedi gostwng ychydig i 19.2% yn 
2015 oi gymharu 芒 19.4% yn 2014.
Mae鈥檙 cyfanswm o bynciau a gofrestrwyd gyda鈥檙 Bwrdd Cymreig gan fyfyrwyr Sir y 
Fflint ar gyfer arholiadau鈥檙 haf 5% yn uwch na鈥檙 llynedd.  Yn ogystal, mae 
llawer o
fyfyrwyr Sir y Fflint yn sefyll arholiadau yn gynt yn y flwyddyn nawr yn 
hytrach na chyfnod yr haf bob tro.  Dylai canlyniadau Sir y Fflint wella 
ymhellach pan ychwanegir canlyniadau鈥檙 ymgeiswyr a safodd eu harholiadau yn 
gynnar at rai cyfnod yr haf.  Er bod y rhan fwyaf or cofrestriadau pwnc gyda鈥檙 
Bwrdd Cymreig,
mae鈥檙 rhai sydd wedi sefyll arholiadau 芒 byrddau yn Lloegr wedi gweld cynnydd 
yn y gyfradd llwyddo ar draws y sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淎r ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein disgyblion ar eu 
canlyniadau TGAU.  Unwaith eto, mae ein disgyblion wedi perfformion dda a 
chyrraedd safonau uchel yn eu harholiadau allanol.  Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl 
staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i鈥檙 myfyrwyr lwyddo 
ac i鈥檙 holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth iw plant.
Rwy鈥檔 gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi鈥檙 myfyrwyr i symud ymlaen 
i gyrsiau addysg 么l-16 neu ddod o hyd i waith addas.   Rydym yn dymuno pob 
llwyddiant iddynt, pa bynnag gwrs y byddant yn ddewis ei astudio.鈥 
Fe ychwanegodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Ian Budd:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn falch o longyfarch y myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir 
y Fflint am y canlyniadau TGAU da hyn. Maent yn ganlyniad i ymrwymiad a gwaith 
caled ein myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen 芒 hyder i Addysg Bellach 
yn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn llongyfarch ein myfyrwyr i gyd ar eu 
llwyddiant.
Nodyn i olygyddion
Ar adeg ei gyhoeddi, mae鈥檙 wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd 
CBAC yn unig.  Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynghylch y darlun 
cyflawn.  Unwaith y bydd y data hwn, gan gynnwys data gan fyrddau arholi a 
leolir yn Lloegr ac arholiadau a safwyd yn fuan gan fyfyrwyr Sir y Fflint wedi 
cael eu prosesu, sydd ddim ar gael yn ganolog i AALl Cymru, daw darlun cliriach 
i鈥檙 amlwg.   Mae鈥檔 bwysig nodi bod cyfran ystadegol berthnasol o gofrestriadau 
TGAU Sir y Fflint trwy fyrddau Lloegr.