Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyflwyno Ffioedd Parcio
  		Published: 17/08/2015
Cafodd strategaeth barcio sirol, syn cynnwys cyflwyno ffioedd parcio ym mhob 
maes parcio tref syn eiddo ir Cyngor Sir, ei chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor 
fis Ebrill. Bydd y strategaeth newydd yn darparu dull cyson ar gyfer parcio 
oddi ar y stryd mewn meysydd parcio. 
Mae mesurau parcio a gorfodaeth yn allweddol i reoli’r rhwydwaith priffyrdd yn 
effeithiol ac i helpu i osgoi tagfeydd. Mae rheoli parcio oddi ar y stryd yn 
effeithiol yn hanfodol i gynnal bywiogrwydd ac egni tref. 
Bydd y ffioedd parcio yn cael eu gweithredu’n raddol ar draws y sir rhwng rwan 
a diwedd y flwyddyn. Bydd ffioedd yn cael eu cyflwyno ym Mwcle ddydd Llun 17 
Awst a bydd ffioedd newydd yn cael eu cyflwyno yng nghanol tref yr Wyddgrug. 
Mae amserlen gweddill y sir fel a ganlyn:
Medi – Treffynnon 
Hydref - Y Fflint, Cei Connah, Queensferry, Shotton
I’w cadarnhau - Neuadd y Sir, yr Wyddgrug 
Maer rhestr lawn o’r trefi a’r meysydd parcio yr effeithir arnynt, ynghyd â’r 
ffioedd a’r oriau y codir tâl, ar gael ar wefan y Cyngor.
Nid oes unrhyw gynllun i gyflwyno ffioedd i’r rheiny â bathodynnau glas sy’n 
parcio ym meysydd parcio’r Cyngor mewn mannau parcio dynodedig ir anabl.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
“Mae’r Strategaeth Parcio yn cael ei chyflwyno fel rhan o’n her i ganfod 
arbedion effeithlonrwydd o £18 miliwn a mwy yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 
Rydym ni wedi addasur cynigion gwreiddiol i gymryd prif bryderon a godwyd yn 
ystod ymgynghoriadau i ystyriaeth, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn.