天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ceisio barn am fap llwybr drafft Teithio Llesol

Published: 19/08/2015

Gofynnir am farn pobl am fenter genedlaethol newydd a fydd yn annog y cyhoedd i wneud teithiau bob dydd byr ar droed neu ar feic yn hytrach na defnyddio cerbyd. Bydd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych yn lansio ymgynghoriad ar eu Mapiau Llwybr Presennol Drafft Teithio Llesol yn Sioe Dinbych a鈥檙 Fflint ddydd Iau, 20 Awst. Gwahoddir y cyhoedd i weld y Map a llenwi arolwg byr, a fydd hefyd ar gael ar wefan y Cyngor, mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. Pasiwyd Deddf Teithio (Cymru) 2013 gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Hydref 2013. Ei diben yw galluogi mwy o bobl i gymryd dewisiadau teithio llesol ar gyfer teithiau byr, er enghraifft drwy gerdded neu feicio lle maen addas iddynt wneud hynny, yn hytrach na defnyddio cludiant modur. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: 鈥淢aer Ddeddf Teithio Llesol y cyntaf o鈥檌 math yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru yn genedl teithio llesol. 鈥淢aer Cyngor wedi mapio ei Lwybrau Teithio Llesol a bellach yn croesawu adborth i helpu i lunio ein Map Llwybr Presennol iw gyflwyno i Weinidogion Cymru yn y Flwyddyn Newydd.鈥 Dywedodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros Briffyrdd: 鈥淢ae鈥檙 sioe yn gyfle gwych i ni drafod ein cynlluniau gyda鈥檔 preswylwyr a rhoi cyfle iddyn nhw fynegi barn.聽 Bydd staff sydd yn gweithio ar y cynllun ar gael ar faes y sioe ac mae digon o gyfle i bobl ddweud eu dweud a rhannu syniadau鈥. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 12 Tachwedd 2015.